Ar raddfa o 1-10, pa mor wyrdd wyt ti'n meddwl wyt ti?
7½
Beth yw dy arfer mwyaf gwyrdd?
Ailgylchu
Wyt ti'n gwybod beth yw dy ôl troed carbon ac wyt ti'n poeni?
Dwi'n defnyddio awyrennau dipyn, a falle ddim yn cerdded lle gallwn i ddefnyddio'r car yn ddigon aml, ond dwi bob amser yn dewis yr opsiwn mwya gwyrdd pan fod hi'n bosib. Siŵr iawn 'mod i'n poeni – mae angen i ni gymryd cyfrifoldeb am yr effaith rydyn ni'n ei gael ar yr amgylchedd.
Faint wyt ti'n ailgylchu?
Popeth galla i.
Faint wyt ti'n ailddefnyddio?
Pob dim dwi'n gallu. Mae jariau'n mynd at fy mam i a mam fy nghariad ar gyfer picls a chutney, a dillad yn mynd i'r siop elusen neu'n cael eu pasio ymlaen.
Pa fath o fylbiau golau sydd gen ti?
Mae'r rhan fwyaf yn rhai arbed ynni.
Wyt ti'n compostio?
Na – does gen i ddim gardd.
Beth oedd y peth gwyrdd diwethaf wnest ti?
Ailgylchu poteli gwin ar ôl penwythnos cymdeithasol iawn! Mynd i Lundain ar y trên yn lle gyrru.
Wyt ti'n meddwl all pawb wneud gwahaniaeth?
Wrth gwrs – mae'n rhaid i bawb wneud rhywbeth bach neu fydd o ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth.
Os daw hi i'r dilyw, beth fuaset ti'n ei achub o dy gartref – ar wahân i'r teulu?
Hen luniau – pethau sentimental na allen i eu cael yn ôl.
Bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd at fywyd gwyrdd! Bob nos Iau 20:25
Pobl a'u gerddi yw canolbwynt y gyfres hon
Ifor ap Glyn sydd yn ceisio gwneud popeth yn wyrdd.
Iolo Williams sy'n cyflwyno cyfres gyffrous am dirwedd Cymru. Gwyrdd – blwyddyn o raglenni yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales