Neidio at y cynnwys

S4C

S4C Gwyrdd

Holiadur Gwyrdd

Lowri Morgan

Lowri Morgan

Cyflwynydd Ralïo a merch heini

Ar raddfa o 1-10, pa mor wyrdd wyt ti'n meddwl wyt ti?

Rwy’n ceisio ailgylchu ac ailddefnyddio gymaint â sy’n bosib ond rwy’n credu y gallwn i wneud yn well, felly 6.

Beth yw dy arfer mwyaf gwyrdd?

Rwy’n ailgylchu gwastraff ac yn creu compost gyda gweddillion bwyd e.e. ffrwythau a llysiau. Hefyd, pan yn prynu bwyd ffres rwy’n ceisio dewis y rhai sy heb eu lapio â phlastig.

Wyt ti'n gwybod beth yw dy ôl troed carbon ac wyt ti'n poeni?

Dwi ddim yn gwybod yr ateb, sori! Achos yr holl deithio sy ynghlwm â Ralïo, rwy’n siŵr bod fy ôl troed carbon yn uwch. Ond bellach, mae’r byd moduro’n ceisio newid ei ffordd trwy bartneri rasys/ralïau â’i gilydd (er mwyn lleihau’r teithio sy’ rhwng pob ras/rali). Maent hefyd yn cyflwyno bio-fuel i gystadlaethau.

Faint wyt ti'n ailgylchu?

Gymaint ag y medra i. Mae ffonau symudol yn mynd at siopau arbenigol, dillad i siopau elusen a chanolfannau ailgylchu dillad. Dwi'n ailgylchu jariau, poteli gwydr, llyfrau, papaurau a.y.b.

Faint wyt ti'n ailddefnyddio?

Eitha’ tipyn. Bagiau plastig (er rwy bellach yn ailgylchu bagiau ar gyfer y siopa!); dysglau prydau parod, a jariau i gadw pethau megis arian a hoelion.

Pa fath o fylbiau golau sydd gen ti?

Bylbiau arbed ynni – bob tro!

Wyt ti'n compostio?

Ydw! Dwi’n byw mewn fflat felly’n mynd â’r gweddillion yn ôl at gompost y teulu (sy’n byw 'chydig filltiroedd i ffwrdd ohona i!!).

Beth oedd y peth gwyrdd diwethaf wnest ti?

Newydd newid holl fylbiau’r fflat newydd i fod yn rhai sy’n arbed ynni.

Wyt ti'n meddwl all pawb wneud gwahaniaeth?

Mae angen codi ymwybyddiaeth ac angen addysgu! Trwy ailgylchu, arbed, ailddefnyddio ac os ma’ pawb yn gwneud eu tamaid, gallwn ni effeithio’n fawr ar yr amgylchedd nawr ac yn y dyfodol.

Os daw hi i'r dilyw, beth fuaset ti'n ei achub o dy gartref – ar wahân i'r teulu?

Pethau sentimental – ffotograffau teuluol, cerdiau a llythyron personol.

Rhaglenni Gwyrdd

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd at fywyd gwyrdd!

Gwefan Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Byw yn yr Ardd

Byw yn yr Ardd

Pobl a'u gerddi yw canolbwynt y gyfres hon.

Gwefan Byw yn yr Ardd

Popeth yn Wyrdd

Popeth yn Wyrdd

Ifor ap Glyn sydd yn ceisio gwneud popeth yn wyrdd.

Gwefan Popeth yn Wyrdd

Natur Cymru

Natur Cymru - Iolo Williams

Iolo Williams sy'n cyflwyno cyfres gyffrous am dirwedd Cymru. Gwyrdd – blwyddyn o raglenni yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.

Gwefan Natur Cymru

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales