Ar raddfa o 1-10, pa mor wyrdd wyt ti'n meddwl wyt ti?
5, er, erbyn meddwl, dwi'n rhoi bin allan unwaith y mis ac yn llosgi coed nid glo, felly 6.
Beth yw dy arfer mwyaf gwyrdd?
Dwi'n taflu'r nesa peth at ddim sbwriel. Mae'r cŵn – Seren a Derwen – yn cysgu gyda fi i arbed gwres.
Wyt ti'n gwybod beth yw dy ôl troed carbon ac wyt ti'n poeni?
Nac ydw, ond dwi'n gwneud fy ngorau i beidio â llygru. Does gen i ddim car, dwi'n cadw ieir a dwi'n trio peidio rhoi unrhyw beth mewn landfill. Wrth gwrs 'mod i'n poeni - lle'r eith y cyfan yn y diwedd? Ddwedwn i mai ôl un droed sydd gen i, nid y ddwy!
Faint wyt ti'n ail-gylchu?
Popeth sy'n bosib! Mae tuniau bwyd yr anifeiliaid, caniau cwrw a photeli'n mynd i ganolfan ailgylchu Plas Dinas, lle dwi hefyd yn dod i hyd i bethau i'w hailddefnyddio.
Pob dim - mae gwerth ym mhopeth, bron. Dwi'n claddu poteli dŵr glas â'u pen i waered i ffurfio bordor i'r planhigion dyfu drostyn nhw. Dwi'n ailddefnyddio sgriwiau a dolenni oddi ar ddrysau o Blas Dinas - unwaith byddwch chi'n llosgi'r paent oddi arnyn nhw a rhoi ychydig o olew arnyn nhw, maen nhw fel newydd.
Pa fath o fylbiau golau sydd gen ti?
Y rhai arbed ynni.
Wyt ti'n compostio?
Wel, os nad ydw i'n bwyta rhywbeth, caiff y cŵn o, ac os ydyn nhw'n troi eu trwynau, mae'r ieir yn ei gael. Os nad ydyn nhw ei eisiau dydy o ddim yn werth ei gael! Dwi'n gwneud compost gyda thail yr ieir a blawd llif.
Beth oedd y peth gwyrdd diwethaf wnest ti?
Gwneud cytiau ieir allan o baletau pren.
Wyt ti'n meddwl all pawb wneud gwahaniaeth?
Ydw – tasa pawb yn gwneud un peth bob dydd, buasai hynny'n helpu.
Os daw hi i'r dilyw, beth fuaset ti'n ei achub o dy gartref – ar wahân i dy anifeiliaid?
Y grât tân – yr aelwyd ydy calon y cartref, a gallwn i adeiladu lle tân o'i gwmpas yn rhywle arall.
Rhaglen gwyrdd
Nos Iau 4 Rhagfyr 20:25
Bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd at fywyd gwyrdd!
Pobl a'u gerddi yw canolbwynt y gyfres hon.
Ifor ap Glyn sydd yn ceisio gwneud popeth yn wyrdd.
Iolo Williams sy'n cyflwyno cyfres gyffrous am dirwedd Cymru. Gwyrdd – blwyddyn o raglenni yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales