Neidio at y cynnwys

S4C

S4C Gwyrdd

Holiadur Gwyrdd

Wyn Gruffydd

Wyn Gruffydd

Pyndit a sylwebydd, Y Clwb Rygbi

Ar raddfa o 1-10, pa mor wyrdd wyt ti'n meddwl wyt ti?

Rhywle rhwng 7 ac 8.

Beth yw dy arfer mwyaf gwyrdd?

Ailgylchu gwastraff o’r gegin.

Wyt ti'n gwybod beth yw dy ôl troed carbon ac wyt ti'n poeni?

Dim syniad, ond gyda thaith i Dde Affrica ar gyfer y rygbi, a theithiau blynyddol i Dubai, Hong Kong ac ambell i le arall mae e'n fwy na nifer – ond dwi yn ceisio cwtogi ar siwrneiau car trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fo hwnnw’n opsiwn.

Faint wyt ti'n ail-gylchu?

Papur newydd, poteli, gwastraff o’r gegin a’r ardd.

Faint wyt ti'n ail-ddefnyddio?

Tipyn; poteli plastig ac yn arbennig bocsys plastig o'r 'take-away'. Wy'n tanysgrifio i wefan 'Carmarthenshire Freecycle' ac wedi gwaredu eitemau i'w hailgylchu trwy honno o bryd i'w gilydd.

Pa fath o fylbiau golau sydd gen ti?

Rhai egni isel yn yr ystafelloedd hynny lle mae angen golau am amser hir, neu fel arall does dim pwrpas gan eu bod yn cymryd oes i oleuo.

Wyt ti'n compostio?

Ydw.

Beth oedd y peth gwyrdd diwethaf wnest ti?

Prynu genweirfa ['wormery'] a chasgen i ddal dŵr to ar gyfer dyfrhau'r ardd. Dwi hefyd wedi archebu rhagor o ddeunydd insiwleiddio ar gyfer y to.

Wyt ti'n meddwl all pawb wneud gwahaniaeth?

Gall heb os.

Os daw hi i'r dilyw, beth fuaset ti'n ei achub o dy gartref – ar wahân i'r teulu?

Bwced – achos yn dilyn pob dilyw does dim yn saffach na fydd sychder yn siŵr o ddilyn rhywbryd!

Rhaglenni Gwyrdd

Pawb a'i Farn

Dewi Llwyd

Rhaglen gwyrdd

Nos Iau 4 Rhagfyr 20:25

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd at fywyd gwyrdd!

Gwefan Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Gwylio ar Clic

Byw yn yr Ardd

Byw yn yr Ardd

Pobl a'u gerddi yw canolbwynt y gyfres hon.

Gwefan Byw yn yr Ardd

Popeth yn Wyrdd

Popeth yn Wyrdd

Ifor ap Glyn sydd yn ceisio gwneud popeth yn wyrdd.

Gwefan Popeth yn Wyrdd

Natur Cymru

Natur Cymru - Iolo Williams

Iolo Williams sy'n cyflwyno cyfres gyffrous am dirwedd Cymru. Gwyrdd – blwyddyn o raglenni yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.

Gwefan Natur Cymru

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales