CROESO I WEFAN HACIO

Hacio yw’r unig gyfres materion cyfoes teledu ar gyfer pobl ifanc. Yn cael ei ddarlledu pob nos Iau mae’r rhaglen yn delio gyda phob math o faterion cyfoes syn effeithio pobl ifanc Cymru.

Mae ein newyddiadurwyr yn awyddus i gael ymateb oddi wrth y gwylwyr, felly os oes gyda chi unrhyw stori plîs gysylltwch â ni ar 08448 810266 neu anfon e-bost i hacio@itv.com.

HACIO YR WYTHNOS HON: NOS IAU 09.10.08 22:37 a 23:55

'Protest Fudur'

Yr wythnos hon bydd Hacio yn dilyn cwmni theatr newydd ar gyfer pobl ifanc, sy’n protestio yn erbyn y diffyg dramâu mentrus a chyffroes yng Nghymru – Protest Fudur.

Eu nod yw i roi cyfle i bobl ifanc heb dim profiad cyfle i ysgrifennu a chyfarwyddo law yn llaw efo awduron a chyfarwyddwyr proffesiynol.

Trwy wneud theatr yn rhad, bur, hwyl ac yn llai swyddogol mae’r cwmni yn ceisio denu mwy o bobl ifanc i’r theatr a chreu ‘buzz’ ym myd theatr Cymru.

Gwyliwch Hacio nos Iau i ddarganfod mwy am sut mae ‘Protest Fudur’ yn trio newid y sîn theatr yng Nghymru, a’r problemau ma nhw’n eu hwynebu wrth wneud.

 

 

 

 

 

Gwyliwch y penodau diweddara ar S4C band llydan

I ymweld â wefan 'Y Byd ar Bedwar' cliciwch yma

 


HACIO
POB NOS IAU
S4C DIGIDOL
ss="strip">