Neidio at y cynnwys

S4C

Archif Hacio


  • 01.03.10

    Dros y misoedd a'r dyddie dwetha ma' peldroedwyr proffesiynol 'di hawlio'r penawdau dros Brydain am eu hymddygiad personol. Ond a ddyle'r ser ddangos gwell esiampl i bobol ifanc sy'n eu haddoli?

     Bydd Elen yn mynd i glwb Everton i gael golwg arbennig ar fywyd Nathan Craig,  peldroediwr ifanc o Gaernarfon.

    Cyn bo hir fe gawn ni refferendwm i weld a ddyle'r Cynulliad gael mwy o bwerau ai peidio.
    Ond tra bo ni'n dadlau am bwerau fan hyn - yn sbaen dros y penwthnos, rodd pobl catalonia di trefnu refferendwm am annibynniaeth lawn.

    Ond ydy annibynniaeth i Gymru yn realistig neu yn ffantasi? Lisa sy'n ymchwilio.

    Helynt y buggy golff sy'n cael sylw ar Hacio'n Holi wrth i Derwyn Jones ateb cwestiynnau Owain.

  • 22.02.10

    Yr wythnos hon bydd Hacio yn wythnos ffasiwn Llundain a'n cyfarfod â model o Gaerfyrddin sydd wedi troi cefn ar y diwydiant.

    Ry’n ni’n clywed stori Hannah Meredith – merch 17 oed o Lanelli fuodd farw llynedd ar ol bod yn gaeth i gyffuriau.

    Ac yn dilyn ei sylwadau dadleuol ynglyn â chyfreithloni cyffuriau - arweinydd Cyngor Sir Gâr, Meryl Gravell sy’n wynebu cwesitynau Owain.

  • 15.02.10

    Bydd Hacio nôl ar S4C gyda chyfres arall o faterion cyfoes i bobl ifanc a ‘rhyw’ fydd yn cael sylw’rm yn y rhaglen yr wythnos hon.  Bydd mam ifanc o Dreorci yn siarad am ei phrofiad o gael babi tra’n yr ysgol.

    Bydd y tîm hefyd yn datgelu canlyniadau ‘Holiadur Rhyw Hacio’ –  arolwg barn o bobl ifanc ar draws Cymru,  a’n gofyn ydy addysg rhyw mewn ysgolion yn ddigonol?

    A Cefin Roberts, cyfarwyddwr artistig y Theatr Genedlaethol sy’n wynebu cwestiynau Owain ar ‘Hacio’n Holi’.

  • 20.10.09

    Yn ystod wythnos ymwybyddiaeth alcohol bydd Hacio yn dilyn criw ar grôl teircoes yn Aberystwyth a'n cael golwg arbennig ar noson Carnage yng Nghaerdydd.
    Goryfed - hwyl ddiniwed neu ben tost i gymdeithas?

    A ddylid gwerthu alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd? Byddwn ni’n clywed barn rai o aelodau ifanc y mudiad.

    A Wynford Elis Owen sy'n wynebu cwestiynau Owain ar 'Hacio'n Holi'.

  • 13.10.09

    Ma'n dymor newydd i golege ar draws Cymru, a myfyrwyr sy'n cael sylw Hacio mewn rhifyn arbennig.

    Wrth i nifer y di-waith gynyddu, beth yw gwerth gradd?
    Faint ma myfyrwyr yn wbod am eu hawliau fel tenantiaid?
    Ac ydy'r cyngor sy'n cael ei roi i bobl ifanc cyn dechre eu gyrfa yn ddigonol?

    Hacio sy'n chwilio am yr atebion - Nos Fawrth ar S4C.

  • 01.09.09

    Llun 1Wythnos diwethaf ‘nath grŵp o feddygon godi pryderon am un o'r tabledi colli pwysau mwyaf newydd ar y farchnad. Ro'n nhw'n poeni bod gwerthu'r 'Diet Pill' yma dros y we yn ‘neud hi'n rhy hawdd iddo fynd i'r dwylo anghywir. Lisa sydd wedi bod yn edrych ar ba mor hawdd yw cael gafael ar y moddion a chael barn arbennigwyr ar dabledi colli pwysau.

     

    Llun 2Ym mis Mawrth cafodd rheolau Fisa Prydain eu newid. Ers hynny, mae'n anoddach i ddoctoriaid sy' heb gwblhau hyfforddiant aros yma i weithio. Elen sy' di bod yn edrych ar yr effaith allai hyn ei gael ar ein gwasanaeth iechyd.

     

    A bydd Owain yn holi’r Aelod Seneddol Ewropeaidd newydd Kay Swinburne.

  • 25.08.09

    Llun 1Yr wythnos hon fe fydd cwrs rasio ceffylau Ffos Las yn agor yn swyddogol yn Sir Gar. Ond beth yw apêl rasio ceffylau a pha mor deg yw'r diwydiant ar yr anifeiliaid? Fe fyddwn ni’n cael barn un joci ifanc sy’n rasio ac un phrotestwraig sy’n poeni am les yr anifeiliaid.

     

    Llun 2Ers mis ma nifer yn Sir Fôn 'di bod yn ymgyrchu i gadw rhai o gyfleusterau chwaraeon y Sir ar agor.  Ath Helen i gael barn rai o bobl ifanc y Sir sy'n cwyno ac i weld pa effaith fyddai cau'r llefydd yma yn ei gael?

     

    Ar Hacio'n holi - diffyg swyddi, yr arweinyddiaeth a dyfodol y blaid Lafur yw'r pynciau trafod i Owain gyda'r Aelod Cynulliad Carwyn Jones.

  • 18.08.09

    Llun 1Ar hyn o bryd mae na fesur newydd yn mynd trwy dy'r Arglwyddi sy'n golygu tynhau'r gyfraith sy'n gysylltiedig a phuteindra. Ond mae 'na rai yn teimlo y bydd hyn yn peryglu lles y puteiniaid ac yn galw ar y llywodraeth i gyfreithloni puteindai Prydain. Ond ai cyfreithloni yw'r ateb? Mae Lisa'n cael golwg arbennig ar y diwydiant rhyw yn Amsterdam.

     

    Llun 2Mewn pymtheg mlynedd gobaith llywodraeth Cymru yw y bydd 70% o'n gwastraff ni yn cael ei ailgylchu. Ond mae na rai yn cwyno nad yw ein systemau presenol ni yn ddigon effeithiol a'u bod yn drysu'r cyhoedd. Mathew sy'n gofyn ydy ailgylchu ein gwastraff yn wastraff amser?

     

    Ar Hacio'n holi - yn dilyn ymgyrch 'Climate Camp Cymru' ym Merthyr - glo brig fydd yn cael sylw Owain gyda Bethan davies o gwmni 'Ffos y Fran'.

  • 11.08.09

    Llun 1Ma'r nifer o bobl ifanc sy'n cymryd cyffuriau ‘dosbarth A’ yng Nghymru ar gynnydd. Yn ol ystadeagu sydd newydd gael eu cyhoeddi gan lywodraeth y Cynulliad ma 70% o'r rhai sy'n defnyddio'r cyffuriau yma rhwng 16 a 24 oed.  Felly pa mor beryglus yw cyffuriau fel ‘cocaine’ ac ‘ecstasi’?  Elen sy’n ymchwilio.

     

    Llun 2A chyfle i weld uchafbwyntiau rhifyn arbennig o 'Hacio yn Holi' o'r  Eisteddfod. Ar y panel yn wynebu cwestiynau Owain mae’r Aelod Cynulliad Nerys Evans, Pennaeth Cofforaethol S4C Tim Hartley, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Menna Machreth a’r perfformwraig Tara Bethan

     

  • 04.08.09

    Llun 1Yr wythnos hon – Stori teulu ifanc o Gaernarfon sy’ wedi cael triniaeth arbrofol i’w mab yn Tseina. Fe fyddwn ni’n edrych ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn triniaethau celloedd bonyn gan ddangos lluniau ecscliwsif o’r driniaeth yn Tseina.

     

    Llun 2Fe fyddwn ni hefyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn gofyn faint o groeso sydd ‘na i'r di-gymraeg yn yr wŷl?

     

     

    Ar Hacio’n Holi - prif weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts sy'n wynebu cwestiynau Owain.

  • 28.07.09

    Dros y blynydde dwetha mae na nifer o ddamweiniau anffodus wedi digwydd sy’ di gadel cwmwl dros un o ddigwyddiadau mwya'r flwyddyn i'r ffermwyr ifanc, y Sioe Frenhinol. Wythnos dwetha fe fuon ni gyda'r heddlu, y trefnwyr,  a'r ffermwyr ifanc i weld be sy'n digwydd pan ma'n nosi yma'n Llanelwedd.

    llun 2

    Yn dilyn prawf cyntaf cyfres y lludw yng Nghaerdydd fe fyddwn ni’n gofyn "a ddylid creu tîm criced annibynnol i Gymru?"

     

     

    llun 3Cyfleustere band llydan sy'n cal sylw Owain yn dilyn cwynion bod rhai ardaloedd o gefn gwlad Cymru yn dal i fyw hebddo. Mae Owain yn cyfarfod un bachgen ifanc sy’ wedi cael llond bol o'r sefyllfa ac yn holi prif weithredwr BT Cymru – Ann Beynon.

  • 21.07.09

    Ar gyfer rhaglen gyntaf y gyfres newydd, bydd tîm o ohebwyr Hacio yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

    dylanDros y misoedd dwethaf mae Hacio wedi dilyn un milwr ifanc o Bwllheli sydd yn Afghanistan. Wedi marwolaethau diweddar milwyr Cymreig yn nhalaith Helmand byddwn yn gofyn oes cyfiawnhad i’r milwyr fod yno? 

     

    buwchHefyd, yn dilyn ymgyrch ddiweddar gan Syr Paul McCartney, fe fydd y tîm yn gofyn a ddylid bwyta llai o gig er lles yr amgylchedd.  

     

     

    A bydd Owain yn cyfweld â Gweinidog Cefn Gwlad y Cynulliad, Elin Jones ar gyfer ein eitem wythnosol ‘Hacio’n holi’.

  • 19.05.09

    llun 1A ddylai pob dyn hoyw gael yr hawl i roi gwaed? Ar hyn o bryd dyw dynion hoyw sy’ ‘di cael rhyw gyda dyn arall ddim yn cael rhoi gwaed yn ôl canllawie'r gwasanaeth iechyd. Yn ystod y deufis nesa fe fydd pwyllgor arbenigol yn ail ystyried y rheol ar ran y llywodraeth. 

    Yr wythnos yma fe fydd Hacio’n edrych ar y dadleuon.

     

    llun 2Ar hyn o bryd mae myfyrwyr Cymraeg yn cael y dewis i aros mewn neuadd breswyl benodedig Gymraeg ym mhrifysgol Aberystwyth ac ym Mangor.  Ond eleni ma na ofidion am ddyfodol Neuadd Pantycelyn a John Morris Jones yn dilyn cynlluniau i symud y neuaddau i leoliadau arall.  

    Ond pa effaith fyddai'r cynlluniau newydd yn ei gael ar y cymdeithasau Cymraeg?

     

    Ar Hacio'n Holi -  hawliau hoywon, gor-yfed a rhyw yw'r pynciau trafod i Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan.

  • 12.05.09

    llun 1Ffliw’r moch - fe fyddwn ni gyd yn derbyn pamffled drw’r post ynglŷn â’r peryglon dros y dyddiau nesaf.

    Ond ydy'r peryg drosodd erbyn hyn, ac oes na or-ymateb di bod?


    llun 2Ddydd sadwrn roedd hi'n ddiwrnod masnach deg y byd - y nod odd ein hannog ni i feddwl ddwywaith o ble mae'n nwyddau ni'n dod. Ma’ rhai enwe mawr ar y stryd fawr wedi wynebu protestiadau ynglŷn â'i polisi masnachu.

    Ond ydy pobl yn poeni o ble ma'i dillad nhw'n dod ?

    Ar Hacio'n Holi, y gofid am ffliw'r moch sy dan sylw Owain a Dr Meirion Evans.

  • 05.05.09

    llun 1Mae hi'n ddeng mlynedd ers etholiadau cyntaf y Cynulliad. Ond, degawd yn ddiweddarach, be mae pobl wir yn wbod am waith y sefydliad?

    Ac oes angen mwy o bwerau ar y llywodraeth ym mae Caerdydd?

     

    llun 2A ninne'n ynghanol gwasgfa ariannol mae adroddiad diweddar yn awgrymu bod ni'n fwy tebygol nag erioed o wynebu twyll.  Mae manylion personol mwy na 100,000 o bobl yn cael eu dwyn bob blwyddyn – boed ar y we neu drwy beiriant twll yn y wal. 

    Mewn adroddiad arbennig fe fyddwn yn gofyn pa mor saff yw ein manylion personol ni?

    A’r wythnos yma ar 'Hacio'n Holi',  llywydd y cynulliad Dafydd Ellis Thomas sy’n wynebu cwestiynau Owain.

  • 28.04.09

    llun 1Fis diwetha fe gath dau filwr o dde Cymru eu lladd yn nhalaith Helmand yn Afghanistan. Fis yma ma dros bum cant o'r Gwarchodlu Cymreig wedi cyrraedd y wlad fel rhan o'r rhyfel yn erbyn terfysgaeth.

    Ond ydy'r milwyr ifanc wedi eu paratoi yn ddigonol ar gyfer y peryglon?

    llun 2Hefyd ar y rhaglen - dros yr wythnosau diwetha ni 'di bod yn dilyn ymgyrch un bachgen o Fae Colwyn i gyrraedd y gemau paralympaidd. Ond mae James Lusted 'di cael gwybod na fydd e'n cael cystadlu yn gemau Llundain yn 2012.

    Os digon o gefnogaeth felly i bobl ag anableddau o fewn chwaraeon?

    Yn ein slot Hacio'n Holi yr wythnos yma - yr Uwch Gapten Andy Rowlands sy'n wynebu cwestiynau Owain.

  • 21.04.09

    headlampsYn y ddwy flynedd ddwetha mae'r nifer o bobl ifanc dan 25 oed sy'n cael eu lladd mewn damweiniau ceir yng ngogledd Cymru wedi treblu. Llynedd fe gafodd bachgen 19oed o Drawsfynydd ei ladd, a mis diwetha fe gafodd gyrrwr y car garchar am achosi ei farwolaeth.

    Yr wythnos yma ar Hacio ma' un oedd yno noson y ddamwain yn galw ar yrwyr ifanc i bwyllo.

    holiadurHefyd ar y rhaglen - gyda'r twf diweddar mewn addysg Gymraeg yng Nghymru mae mwy a mwy o bobl ifanc bellach yn medru'r iaith. Ond faint o'r disgyblion yma sy’n defnyddio’r Gymraeg tu allan i'r ysgol?  Canlyniadau ymchwil arbennig Hacio.

     

    Yn ein slot Hacio'n Holi - Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg Meri Huws sy'n wynebu cwestiynau Owain.

  • 14.04.09

    Jade GoodyYn dilyn marwolaeth Jade Goody, ma Lisa’n holi Cymraes ifanc sy’ ‘di cael canser ceg y groth.  Oes digon yn cael ei neud yng Nghymru i daclo’r canser yma?

     

     

    G20Tîm Hacio yn ei chanol hi  ym mhrotestiadau y G20. Ond ai’r trafod neu’r trais sy’n aros yn y cof?

     

     


    A Hacio’n Holi banciwr - am y ‘credit crunch’, a sgandal pensiwn Syr Fred Goodwin.

  • 05.03.09 Nôl i Gaza

    Jill Evans ASE Yr wythnos yma ar raglen ola y gyfres fe fydd Hacio yn dilyn taith Jill Evans ASE nôl i Gaza.

    Wythnosau yn unig wedi i ymosodiadau byddin Israel ddod i ben fe fyddwn yn cael golwg arbennig ar y sefyllfa erbyn hyn. Byddwn hefyd yn cyfarfod dwy ferch ifanc yn Israel sy’n dal i amddiffyn y penderfyniad i ymosod ar y Palesteiniaid yn Gaza.

    Ond ydy heddwch parhaol yn bosib?

  • 26.02.09 Beth yw gwir harddwch?

    Miss Wales Mae'n wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, ac fel rhan o'r wythnos fe fydd cystadleuaeth arbennig yn cael eu lansio yn y cynulliad: 'Beth mae gwir harddwch yn golygu i chi?'

    Mae'r gystadleuaeth ffotograffig hon yn ymgaisi waredu'r syniad ystrydebol o harddwch sy'n cael ei ddarlunio yn y cylchgronau ac ar y teledu.

    Mewn cyfweliad arbennig gyda Nigel Owens a Dr David Samuel byddwn yn trafod eu profiadau ynbrwydro yn erbyn salwch bwyta ac yn gofyn oes digon yn cael ei wneud yma yng Nghymru i helpu pobl sy'n dioddef o'r cyflwr.

  • 19.02.09 Tŷ Tryweryn

    Yr wythnos yma ar Hacio – stori mam ifanc sy’n ymgyrchu i gadw canolfan blant yng Nghaernarfon ar agor.

    Mae Tessa Jones yn dibynnu ar ganolfan Tŷ Tryweryn er mwyn parhau gyda’i haddysg. Ond nawr mae’n bosib y bydd rhaid i’r ganolfan gau fis nesa ar ôl i'w cyllid gael ei gwtogi.

    Brwydr Tessa a mamau Maesincla, nos Iau yma ar Hacio.

  • 12.02.09 Pysgota sgalops yng Ngheredigion

    Yr wythnos yma fe fydd Hacio yn cyfarfod â rhai o drigolion Llangrannog yng Ngheredigion sy’n ymgyrchu i warchod arfordir y bae yno.

    Yn ôl y trigolion lleol mae na gychod o bob cwr o Brydain yn dod i’r bae i bysgota am sgalops ac yn dinistrio bywyd gwyllt y môr yn yr ardal. Mae’r bae yn cael ei adnabod fel ardal cadwraeth arbennig, ond nawr mae na bryderon am ddyfodol y dolffiniaid sy’ di ymgartrefu yno, a phobl leol yn poeni am yr effaith ar eu bywoliaeth.

    Ydyn ni’n gwneud digon i ddiogelu amgylchedd ein harfordir ni yma yng Nghymru?

  • 05.02.09 CCTV

    Prydain yw'r wlad sydd a'r mwya o gamerau cctv y pen allan o holl wledydd y byd.

    Mae na gamerau erbyn hyn ar ein strydoedd, mewn ysbytai, swyddfeydd a nifer o ysgolion—lle bynnag ewch chi mae na rywun yn debygol o fod yn eich gwylio.

    Ond ydy rhoi camerau cctv mewn toiledau yn dderbyniol neu yn gam rhy bell?Y

    Yr wythnos yma fe fydd Hacio yn cyfweld a merch sydd wedi gadael Ysgol Dyffryn Teifi ar ôl i gamerau cctv gael eu rhoi yn y toiledau yno ac yn gofyn i’r ysgol i esbonio’r penderfyniad.

  • 29.01.09 Digartrefedd

    Yr wythnos yma mae Hacio yn cyfarfod â dau berson ifanc sy’n cwyno bod diffyg cymorth ar gael i bobl ddigartref.

    Mae Michael Healy yn ddigartref yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ac yn cwyno bod na ddiffyg tai ar gael.

    Fe nath Andrew Jones adel ei gartref yn Ynys Môn yn 16 oed a threulio blynyddoedd yn ddigartref yn yr ardal. Mae e’n cwestiynu system pwyntiau y cyngor lleol.

    Oes digon yn cael ei wneud i helpu pobl ifanc digartref yng Nghymru?

  • 22.01.09 Obama yn cael dylanwad yng Nghymru?

    Yr wythnos yma mae Barack Obama yn cael ei urddo fel arlywydd croen du cyntaf yr UDA. Ond a fyddai gwleidydd o gefndir ethnig yn debygol o gael ei ethol fel prif weinidog yma ym Mhrydain? A fyddai pobl Cymru yn croesawi'r syniad?

    Dim ond un o aelodau cynulliad Cymru sydd o gefnir ethnig wahanol.

    Felly oes digon o gyfleodd yn bodoli i bobl ifanc o gefndiroedd ethnig gael gyrfa mewn gwleidyddiaeth?

  • 15.01.09 Argyfwng Gaza – a ddylen ni boeni yma yng Nghymru?

    Dros y pythefnos ddiwethaf mae dros 700 o bobl wedi cael eu lladd yn Gaza yn dilyn ymosodiadau gan fyddin Israel a mudiad Hammas. Mae’r tensiwn diweddar rhwng Israel a’r Palesteiniaid wedi rhannu barn pobl ar draws y byd.

    Yr wythnos yma fe fydd Hacio yn ymchwilio i’r argyfwng ac yn gofyn pa mor bwysig yw sefyllfa presenol Y Dwyrain Canol i ni yma yng Nghymru?

    Fe fyddwn yn dilyn rhai o bobl Cymru i brotest yn Llundain ac yn cyfarfod a dau berson ifanc gafodd eu geni a’u magu yn y Lan Orllewinol.

Er mwyn gweld yr hen archif cliciwch yma


HACIO
NOS LUN 10.05pm
CYNHYRCHIAD ITV CYMRU DROS S4C

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales