Neidio at y cynnwys

S4C

Tîm Hacio

  • Lisa Haf

    Lisa HafGraddiodd Lisa o Brifysgol Caerdydd gyda gradd yn y Gymraeg. Bu hefyd yn astudio yn ysgol newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd fel rhan o’i chynllun gradd. Mae hi wedi bod yn awyddus i weithio ym myd newyddiaduraeth ers blynyddoedd. Daw Lisa yn wreiddiol o Fynachlog-ddu yn Sir Benfro.

  • Elen Moore

    Elen MooreCychwynnodd gyrfa newyddiaduriaeth Elen ym Mhrifysgol Bryste wrth iddi weithio ar bapur newydd a gorsaf radio’r myfyrwyr. Ar ôl graddio mewn hanes, fe aeth hi i wneud ôl-radd mewn Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd. Daw Elen yn wreiddiol o Wrecsam.

  • Owain Phillips

    Owain PhillipsYmunodd Owain â thîm Hacio wedi cyfnod fel newyddiadurwr gyda Radio Ceredigion. Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth. Daw Owain yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth.

  • Helen Davies

    Helen DaviesWedi graddio o Brifysgol Bangor bu Helen yn gweithio fel newyddiadurwraig i wefan ITV Local Cymru cyn ymuno â thîm Hacio dechrau 2009. Daw’n wreiddiol o Dalgarreg yng Ngheredigion ac mae wedi bod â diddordeb brwd mewn newyddiaduraeth ers blynyddoedd.


HACIO
NOS LUN 10.05pm
CYNHYRCHIAD ITV CYMRU DROS S4C

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales