Un o fandiau mwyaf cynhyrfus y sin roc yng Nghymru yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau, Maffia Mr Huws, wnaeth gloi’r perfformiadau ar nos Wener yn y Sesiwn Fawr Dolgellau eleni.
Roedd eu perfformiad i’w weld yn fyw ar S4C ar nos Wener, 20 Gorffennaf fel rhan o benwythnos o ddarllediadau'r Sianel o’r Sesiwn a gyflwynir gan Huw Stephens a Lisa Gwilym.
Yn ogystal â’r darllediadau byw ar y nos Wener, wnaeth gynnwys perfformiadau gan Steve Earle a Ryland Teifi hefyd, bu S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau o’r ddau brif lwyfan ar y nos Sadwrn ac yn dangos rhaglen uchafbwyntiau.
Nid dyma’r tro cyntaf i Maffia ail-ffurfio gan iddynt berfformio yng ngŵyl Pesda Roc y llynedd a hefyd yng Ngŵyl y Faenol a gig dathlu deng mlwyddiant Golwg dros y blynyddoedd diwethaf.
Ymhlith yr artistiaid eraill wnaeth perfformio yn ystod y penwythnos oedd y Dubliners, Cerddorfa Ukulele o Brydain Fawr oedd yn boblogiadd iawn y llynedd, Meic Stevens, Genod Droog, Gwibdaith Hen Frân a Radio Luxembourg.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales