Neidio at y cynnwys

S4C

Haf 2007

Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau

Daeth S4C â’r cyfan o’r cystadlu a bwrlwm y Maes yn fyw o ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod hyd y Sadwrn olaf.

Y tîm cyflwyno ar gyfer darllediadau’r dydd oedd Huw Llywelyn Davies, Alwyn Humphreys a Sara Gibson yn y stiwdio, gyda Shân Cothi a Mari Grug yn rhoi blas inni o’r cyffro y tu cefn i’r llwyfan. Tara Bethan a Morgan Jones fuodd yn crwydro’r Maes gyda Rhun ap Iorwerth yn cyflwyno’r rhaglenni gyda’r nos.

Eleni, trwy gyfrwng y botwm coch, roedd cyfle i wylwyr S4C glywed clec pob cynghanedd o’r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau.

Drwy ddefnyddio adnodd y botwm coch ar deledu digidol Sky a Freeview bu modd gwylio’r holl weithgareddau fel petai chi yno. Mari Lovgreen oedd yn cyflwyno’r cyfan o’r arlwy o’r Babell Lên - o’r sesiynau trafod a Stori’r Dydd i ymrysonau poblogaidd y beirdd - ac mi oedd hi'n edrych ymlaen at y profiad.

Meddai Mari, “Dwi wedi bod yn cyflwyno’r darllediadau o’r Steddfod ers tair blynedd bellach a dwi’n edrych ymlaen at y sialens newydd yma. Mae’r Babell Lên yn cynnig amrywiaeth o bethau, gyda rhywbeth ar gael i bawb o bob oed ac yn aml mae pobl yn ciwio am hir i fynd i mewn. Ond bydd y darllediadau ar y botwm coch ac S4C2 yn golygu bod sedd ar gael i bawb.”

Ategir hynny gan Feuryn y Babell Lên, y Prifardd Tudur Dylan Jones a fu'n cadw trefn ar y beirdd: “Mae'n braf meddwl fod y Babell Lên ar agor i bawb erbyn hyn. Lle'r oedd ond ychydig o gannoedd yn gallu gwerthfawrogi’r gweithgareddau, eleni bydd miloedd yn gallu gweld yr arlwy, a hynny'n fyw ar y teledu."

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales