Neidio at y cynnwys

S4C

Haf 2007

Gŵyl y Faenol

Bydd S4C yn darlledu dwy raglen awr a hanner o hyd o wythfed Gŵyl y Faenol Bryn Terfel.

Darlledir y gyngerdd roc Tân y Ddraig fydd yn dathlu pen-blwydd BBC Radio Cymru yn 30 oed. Ceir perfformiadau gan rai o gerddorion mwyaf blaenllaw'r byd roc a phop Cymraeg, yn eu plith Bryn Fôn a’i Fand, Huw Chiswell, Y Sibrydion, Frizbee, Steve Eaves a Fflur Dafydd.

Hefyd dangosir Gala Operatig yr ŵyl gyda Bryn Terfel ei hun yn swyno’r gynulleidfa yng nghwmni'r baritôn byd-enwog o Sbaen, Carlos Alvarez. Bydd y tenor o’r Eidal, Fabio Armiliato, y soprano enwog o Bontrhydyfen, Rebecca Evans a’r mezzo-soprano, Christine Rice hefyd yn perfformio. Yn ymuno â’r cantorion ar y llwyfan bydd cerddorfa Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru o dan arweiniad Gareth Jones.

Ar ôl i’r ddau gwrdd tra’n perfformio ‘Falstaff’ yn Fienna rai blynyddoedd yn ôl, bu Carlos Alvarez ar restr Bryn o artistiaid i’w gwahodd i’r Faenol.

Meddai Bryn, “Llwydda’r ŵyl i ddatblygu bob blwyddyn gan ddenu rhagor o artistiaid rhagorol wrth i enw da’r ŵyl fynd ar led yn rhyngwladol. Pleser o’r mwyaf i mi yw cael croesawu artistiaid o fri i’r gornel fach hon o Gymru sydd mor arbennig o hardd, a’u cyflwyno i gynulleidfa frwd y Faenol, cynulleidfa sydd ar gynnydd.”

Meddai Rob Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, “Bydd rhaglenni S4C yn rhoi cyfle arbennig i’r rhai fethodd fynychu’r Faenol eleni i fwynhau uchafbwyntiau gŵyl sy’n profi’n fwy uchelgeisiol a llwyddiannus o flwyddyn i flwyddyn.

“Mae’r arlwy, o gerddoriaeth glasurol i ganu pop a roc, yn golygu bydd digon o ddewis i’r gwylwyr a chydag enwau fel Bryn Terfel, Carlos Alvarez, Rebecca Evans a Bryn Fôn ar y llwyfan fe fydd y perfformiadau yn sicr o fod yn wefreiddiol,” meddai.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales