Neidio at y cynnwys

S4C

Haf 2007

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Bu S4C yn cyflwyno pecyn cynhwysfawr o raglenni o faes yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol eleni. Yn ogystal â’r rhaglenni uchafbwyntiau ar nos Fercher, Iau a Gwener, roedd Alwyn Humphreys yn cyflwyno’r bwrlwm o’r llwyfan pob prynhawn ar S4C digidol.

Nia Roberts fuodd yn cyflwyno cystadleuaeth Côr y Byd ar nos Sadwrn ola’r Eisteddfod, ac roedd cyngerdd y tenor byd-enwog José Carreras yn fyw ar nos Sul, 15 Gorffennaf.

Bu’r gantores ddisglair Elin Manahan Thomas yn edrych ymlaen at Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am fwy nag un rheswm. Roedd hi’n rhyddhau ei CD cyntaf, ‘Eternal Light’, yn ystod wythnos yr ŵyl ond yn bwysicach na hynny, roedd hi'n cyflwyno am y tro cyntaf o’r maes, ar y cŷd â Rhodri Owen.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr ac yn hynod falch i gael y cyfle,” meddai’r soprano sy’n hanu o dref Gorseinon, ger Abertawe. “O bob Eisteddfod, Llangollen yw fy ffefryn oherwydd yr elfen ryngwladol, ac mae ‘na fwy o gymryd rhan nag sydd o gystadlu, gyda’r canu a’r dawnsio yn ymledu allan i’r maes a’r dref. Dyma ŵyl sy’n llawn hwyl a bwrlwm!”

Fe ddylai deimlo’n gartrefol yn Llangollen gan ei bod hi wedi cystadlu yno tra yn yr ysgol.

“Mi wnes i gystadlu gydag Ysgol Gyfun Gwyr. Be’ ‘rwy’n ei gofio orau yw na sylweddoles i, bron, mai Eisteddfod oedd Llangollen. Mae’n teimlo fel gŵyl, yn hytrach na chystadleuaeth, ac fe gafodd ein côr ysgol ni amser gwych yn cwrdd â phobl o bob cwr o’r byd, yn profi’r bwyd, ac yn gwario gormod o arian ar y maes!

“Dwi’n edrych ymlaen at fwyta’r bwyd egsotig ar y maes eleni. A chlywed y gwahanol leisiau sy’n cael eu creu gan wahanol gefndiroedd. Rwy’n synnu bob tro ar y gwahaniaeth enfawr sydd rhyngddon ni, fel pobl, a sut mae gan bob gwlad ei ffordd benodol o fagu lleisiau. Mae’r corau o Rwsia, o Affrica ac o Awstralia wastad yn agoriad llygad i fi - neu’n agoriad clust, falle. A’r gwisgoedd - o am gael lliwiau mor llachar ar bob llwyfan!”

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales