Darlledodd S4C dros 100 awr o Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni, gan ehangu ei gwasanaeth drwy ddarlledu’n fyw ac yn ddi-dor o ail gylch y sioe a roi sylw i gystadlaethau’r gwartheg a gweithgareddau’r Clybiau Ffermwyr Ifanc.
Roedd gwylwyr byd eang yn gallu weld y darllediadau digidol byw ar ein gwefan a bydd y rhaglenni uchafbwyntiau i’w gweld trwy fandllydan am hyd at fis ar ôl y Sioe yn y DU. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys amserlen ddarlledu S4C, gwasanaeth canlyniadau llawn a chyfarchion o’r Sioe.
Nia Roberts fu yn cyflwyno rhaglenni’r dydd, a Dai Jones, Llanilar, oedd yn llywio'r rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos yng nghwmni cyflwynydd Cwpwrdd Dillad, Nia Parry ac Aled Samuel o’r gyfres 04 Wal.
Tîm gohebu Nia Roberts yn ystod y dydd oedd Dai Jones, Daloni Metcalfe, Morgan Jones a Mari Grug. Roedd y pedwar allan ar faes y sioe yn dod a’r holl gyffro i’r sgrîn.
Meddai Meirion Davies, Pennaeth Cynnwys S4C, “Mae gwasanaeth cynhwysfawr S4C o’r Sioe eleni yn tanlinellu ymrwymiad y Sianel i raglenni gwledig ac i’r sioe ei hunan.
“Bydd y sylwebwyr mwyaf gwybodus gennym i roi golwg arbenigol i ddilynwyr y cystadlaethau a digon o adloniant hefyd i’r sawl sydd am fwynhau hwyl y sioe fawr.”
Yn ogystal â darlledu dros 100 awr o raglenni o’r sioe, roedd gweithgareddau lu ym mhafiliwn S4C ar faes y sioe ac roedd croeso i bawb alw heibio i ymuno yn yr hwyl.
Bu rhai o brif gogyddion Cymru yn paratoi prydiau blasus yn y pafiliwn bob bore a phrynhawn gyda’r bwriad o roi syniadau newydd ynglŷn â choginio. Ymhlith sêr S4C a ymddangosodd yn y pafiliwn oedd y gantores, Einir Dafydd, cyd-enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni, ac o dîm cyflwyno Planed Plant, Gareth Delve, Lowri Williams ac Alex Jones.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales