Neidio at y cynnwys

S4C

Haf 2007

Sesiwn Fawr Dolgellau

Mae Sesiwn Fawr Dolgellau wedi ennill ei phlwyf fel un o brif wyliau cerddorol Ewrop, ac eleni bydd S4C yn dod â llu o berfformiadau byw i'r sgrin dros y penwythnos.

Un eitem sydd wedi bod yn destun siarad ers rhai misoedd yw perfformiad cyntaf Endaf Emlyn o'i albwm, Salem, ar y nos Sadwrn. Recordiodd Endaf yr albwm yn ystafell gefn ei dŷ yng Nghaerdydd yn 1974 - a gan ei bod hi'n ganmlwyddiant y llun Salem eleni, mae'r amseru'n berffaith i Endaf berfformio'r albwm fel cyfanwaith byw.

"Fe fydd perfformiad Endaf Emlyn yn dipyn o ddigwyddiad, does dim dwywaith am hynny," meddai Lisa Gwilym, sydd, ochr yn ochr ag Owen Powell, yn cyd-gyflwyno darllediadau S4C o'r ŵyl, gan ddechrau nos Wener, 18 Gorffennaf gyda rhaglen fyw arbennig.

Dyma'r trydydd tro i Lisa gyflwyno o'r Sesiwn i S4C, ac mae hi'n edrych ymlaen yn fawr at yr ŵyl gan ei bod hi'n mwynhau ei hamser yn Nolgellau bob blwyddyn.

"Mae 'na awyrgylch hamddenol braf yn Sesiwn Fawr," eglura Lisa. "Dw i hefyd yn edrych ymlaen at gael clywed Bryn Fôn a Huw Chiswell nos Wener, pan ga'i gyfle i gyd-ganu anthemau gyda dau eicon y sin cerddorol Gymraeg."

Yn ogystal â'r darllediadau byw nos Wener, bydd S4C yn darlledu'n fyw o'r ddau brif lwyfan nos Sadwrn. Bydd cyfle i fwynhau gwledd o gerddoriaeth gan artistiaid megis Steve Eaves, Celt, Saw Doctors a Derwyddon Dr Gonzo. Bydd yna hefyd raglen uchafbwyntiau'r Sadwrn canlynol (26 Gorffennaf) yn dangos rhai o berfformiadau cofiadwy'r penwythnos.

"Mae Derwyddon Dr Gonzo yn ffantastig," meddai Lisa. "Maen nhw'n hwyliog iawn ac mae 'na barti ar y llwyfan bob tro maen nhw'n chwarae. Nhw oedd fod i agor yr ŵyl y llynedd, ond aeth eu fan nhw'n sownd mewn mwd yng ngŵyl Wakestock. Gobeithio wir y byddan nhw'n cyrraedd mewn pryd eleni!"

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales