Mae un o ddathliadau cerddorol a dawns mwya’r byd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, yn paratoi unwaith eto i groesawu detholiad o sêr disgleiriaf y byd i’r llwyfan i ymddangos ym mhrif gyngherddau'r Ŵyl.
Bydd Elaine Paige, un o sêr amlycaf yn hanes Broadway a’r West End, ac sy’n enwog fel y brif gantores yn Evita, Cats, Chess a llawer o sioeau cerdd byd eang, yn agor yr Ŵyl nos Fawrth, 8 Gorffennaf, mewn noson arbennig pan fydd hi'n dathlu 40 mlynedd yn y byd perfformio eleni.
Y grŵp Affricanaidd Onke Ose, gyda'u perfformiadau egniol a dathliadau gorfoleddus, fydd ar y llwyfan nos Iau 10 Gorffennaf. Bydd 17 o gantorion a dawnswyr yn datgan hanes cerddoriaeth Affricanaidd o ddawnsio Zulu hyd at ddawnsfeydd y cymunedau mwyngloddio, a chanu digyfeiliant gwefreiddiol.
Y grŵp benywaidd clasurol, All Angels, fydd yn arwain cyngerdd nos Wener, gan ddod â’i sain newydd pur a’u gwedd ddisglair i’r Eisteddfod am y tro cyntaf. Mae eu perfformiadau'n cynnwys cymysgedd o’r clasurol, y corawl, opera a cherddoriaeth gyfoes.
Y Cyngerdd Gala Opera nos Sul 13 Gorffennaf fydd yn dod a’r Ŵyl i ddiweddglo arbennig, gyda’r tri unawdydd Alfie Boe, Elin Manahan Thomas, a David Kempster, yn perfformio gyda cherddorfa nodedig Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’r soprano ifanc o Abertawe, Elin Manahan Thomas, wedi cael blwyddyn lwyddiannus dros ben, gan gyrraedd rhif dau yn y siartiau clasurol gyda’i chryno ddisg cyntaf a derbyn cymeradwyaeth enfawr gan feirniaid cerddoriaeth glasurol ar hyd a lled Prydain. Mae’r baritone David Kempster yn dod ag elfen arbennig i’r noson gan ei fod yn fachgen lleol sydd wedi ennill cryn lwyddiant. Wedi ei eni nid nepell o faes yr Eisteddfod yn y Waun, dyma fydd ei ymweliad cyntaf fel perfformiwr yn un o gyngherddau’r Eisteddfod.
Mi fydd corau o bob cwr o’r byd yn cystadlu am dlws Pavarotti a’r fraint o fod yn Gôr y Byd, gan gynnwys cynrychiolwyr adnabyddus o Gymru fel Cywair, cyn enillwyr Côr y Byd a Chôr Cymru. A bydd Dawnswyr Nantgarw a Dawnswyr Penrhyd yn ceisio ychwanegu at eu llwyddiant yma yn y gorffennol.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales