Neidio at y cynnwys

S4C

Haf 2008

Cyngerdd Tri10

Bydd cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn dathlu addysg Gymraeg yng Nghaerdydd a phen-blwyddi dwy ysgol uwchradd yn y ddinas, Ysgol Glantaf ac Ysgol Plasmawr. Darlledir y gyngerdd yn fyw ar S4C.

Sefydlwyd Ysgol Glantaf yn dilyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd yn 1978, ac agorwyd Ysgol Plasmawr yn 1998.

"Mae hi am fod yn noson wych, ac yn wahanol i'r hyn y bydd pobl yn ei ddisgwyl. Yn bendant, nid sioe ysgol fydd hon," meddai Stifyn Parri, sy'n cynhyrchu'r gyngerdd ar ran cwmni Mr Producer.

Bydd nifer o gyn-ddisgyblion yn cymryd rhan fel unigolion yn y gyngerdd, gan gynnwys tri sydd wedi gwneud eu marc ar y byd canu clasurol - Paul Carey Jones, Anthony Stuart Lloyd a Jeremy Huw Williams.

Bydd y DJ Radio 1 a chyflwynydd Bandit, Huw Stephens, yn bwrw golwg ar gyfraniad ffrwyth addysg Gymraeg yn y ddinas i'r byd pop yng Nghymru, ac yn cyflwyno perfformiad byw gan y band Hanner Pei.

Bydd Daniel a Matthew Glyn hefyd yn diddanu'r gynulleidfa gyda'u hiwmor unigryw. Bydd Côr Unedig Glantaf - côr o gyn-ddisgyblion, cyn-athrawon a chyn-rieni – hefyd yn cymryd rhan, yn ogystal â chôr unedig Ysgol Glantaf ac Ysgol Plasmawr a Chôr Ysgolion Cynradd Cymraeg y ddinas.

Meddai Stifyn, "Mi es i draw i ymarfer cyntaf Côr Unedig Glantaf fisoedd yn ôl yn awr, ac mi ges i iasau i lawr fy nghefn wrth wrando arnyn nhw bryd hynny. Pwy a ŵyr pa effaith y cawn nhw arna i ar y noson ei hun!

"Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau'r adloniant amrywiol a gynigir yn y gyngerdd. A dweud y gwir, mae'n anodd creu cyngerdd ar lwyfan yr Eisteddfod, llwyfan ar gyfer cystadlu yw hi, ond rwy'n siŵr, oherwydd proffesiynoldeb y disgyblion a phawb sy'n cymryd rhan, y bydd hi'n noson i'w chofio."

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales