Dechreuodd Wakestock wyth mlynedd yn ôl gyda chystadleuaeth donfyrddio fechan a pharti mewn maes parcio.
Heddiw, fodd bynnag, Wakestock yw gŵyl donfyrddio fwya’ Ewrop, ac mae’n un o’r dyddiadau pwysicaf ar y calendr chwaraeon eithafol, gyda miloedd o bobl yn heidio i Ben Llŷn bob blwyddyn i fwynhau’r cystadlu brwd gyda’r dydd a’r adloniant gyda’r hwyr.
Eleni, bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau’r ŵyl i’r gwylwyr gartref. Cyflwynir Wakestock gan Sarra Elgan, ac fe fydd hi’n ein tywys drwy’r cyfan, o’r cystadlu brwd i’r uchafbwyntiau cerddorol.
Yn ogystal â’r artistiaid rhyngwladol sydd yn chwarae yn yr ŵyl, bydd Radio Luxembourg a’r Genod Droog, dau o fandiau mwya’r sîn yng Nghymru, hefyd yn perfformio. Mae Dyl Mei sy’n chwarae gyda’r Genod Droog, o ochrau Porthmadog, yn edrych ymlaen yn fawr at chwarae yn yr ŵyl - y tro cyntaf i’r band wneud hynny.
“Mae hi bob tro’n neis cael chwarae mewn gŵyl leol,” meddai Dyl Mei. “Ond mae Wakestock yn arbennig gan ei bod yn denu bandiau o bob cwr o’r byd, a hynny mewn cae ym Mhen Llŷn.”
Ymhlith yr artistiaid eraill yn cymryd rhan fydd Mark Ronson, Happy Mondays a The Streets. Bydd perfformiad arbennig iawn gan Duffy hefyd, a ddaeth yn ail yn rhaglen dalent WawFfactor S4C nôl yn 2004, ac sy’n dychwelyd i’w chynefin i ganu am y tro cyntaf ers llwyddiant ysgubol ei halbwm, Rockferry.
Mae Dyl Mei yn edrych ymlaen at berfformiad Mark Ronson, cynhyrchydd sydd wedi gweithio gyda’r Kaiser Chiefs ac Amy Winehouse, a pherfformiad Happy Mondays, band a ddaeth i’r amlwg yn gyntaf yn niwedd yr wythdegau.
“Dwi’n siŵr y bydd Mark Ronson yn dda iawn,” meddai Dyl, sydd wedi ennill gwobr cynhyrchydd gorau yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru bedair gwaith.
“Ac mi fydd yr Happy Mondays yn werth eu gweld,” ychwanega.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales