English

Rhaglen 3 - Dihirod ac Arwyr

Yn ogystal â chynnig cynhaliaeth, mae'r môr wedi profi'n beryglus, neu hyd yn oed yn angheuol i nifer di-ri o Gymry dros y canrifoedd.

Cwm yr Eglwys

Cwm-yr-Eglwys
Mae tystiolaeth glir o nerth y môr i'w gweld yn adfeilion yr eglwys hon yn Sir Benfro , a chwalwyd gan y tonnau ym 1859 ...

Royal Charter

Royal Charter
... a’r un diwrnod fe ddigwyddodd un o’r trychinebau morwrol gwaethaf i daro Cymru erioed

Cwch Magwyr

Cwch Magwyr
Nôl ym 1994 daeth achaeolegwyr o hyd i olion cwch o'r 13eg Ganrif yn y mwd ger Magwyr ...

Llong Casnewydd

Llong Casnewydd
... ac fe ddaeth llong fasnachol ddiddorol iawn i'r golwg yng nghanol Casnewydd yn 2002

>Môr-Ladron a Bucanîrs

Môr-ladron a Bycanîrs
Daw nifer fawr o fôrladron a bucanîrs enwog o Gymru a ceir llu o straeon am anturiaethau unigolion fel Harri Morgan a Barti Ddu. Ond beth yw'r gwirionedd y tu ôl i'r straeon rhamantus?

Môr-Ladron: John callis

John Callis
Un môr-leidr hynod ddiddorol o ardal Gwent oedd John Callis, a oedd yn weithgar yn ystod teyrnas Elizabeth I.

Dryllwyr Crugyll

Dryllwyr Crugyll
Grŵp arall o ddihirod morwrol a greodd helynt ar arfordir Cymru oedd y dryllwyr. Yr enwocaf ohonynt oedd Dryllwyr Creigiau Crugyll