English

Rhaglen 3

John Callis

  • Picture

Fe gafodd John Callis yrfa gyffrous fel môr-leidr, er mae’n anodd bod yn bendant am nifer o ffeithiau am ei fywyd.

Fe anwyd John Callis (neu Callys neu Callice) i deulu cyfoethog tua diwedd y 1550au yn Nhyndyrn , Sir Fynwy. Roedd ganddo gysylltiadau teuluol â Iarll Penfro a’r Herbertiaid, prif deulu De Cymru. Derbyniodd addysg ac aeth i Lundain yn ifanc i fod yn brentis i fasnachwr dillad, ond yn fuan yr oedd nôl yng Nghymru ac yn creu helynt ar y môr.

Erbyn 1574 roedd yn cael ei gyhuddo o fod yn gapten ar long môr ladron, The Cost Me Noughte. Cafodd ei ddisgrifio gan y Morlys fel ‘a notorious pyrate haunting the coasts of Wales’, wrth iddo arwain criw o fôr-ladron yn ysbeilio masnach forwrol o gwmpas De Cymru. Fodd bynnag, oherwydd ei gysylltiadau â’r boneddigion, ni chafodd ei erlyn. Yn wir, roedd Callis yn gyfeillgar â William Herbert, Uwch Siryf Morgannwg a Dirprwy-Lynghesydd Cymru, gan aros yn ei dŷ yng Nghaerdydd tra’n ceisio gwerthu’r ysbail roedd wedi ei ddwyn oddi ar longau masnachol. Fe gafodd y boneddigion eu gwobrwyo’n hael am warchod Callis.

  • Picture
  • Castell Carew

Ym 1574 fe gipiodd Callis a’i griw long Eidalaidd, gan werthu’r cargo ym Mryste a Chaerdydd; ar ddiwedd y flwyddyn honno fe ymosododd ar long Bortiwgeaidd oddi ar ynysoedd yr Azores. Am dair blynedd roedd Callis yn lladrata o lu o longau ym Môr Hafren a mannau ar hyd a lled arfordir Prydain, ond fe gafodd loches diogel yn Ne Cymru oherwydd ei gysylltiadau â phrif foneddigion yr ardal. Yn ogystal â’i ffrindiau ym Morgannwg roedd ganddo berthynas da gyda chrachach Sir Benfro, dynion fel Syr John Perrot o Hwlffordd, ac mae’n debyg iddo sefydlu pencadlys i’w hunan yn nhafarn yn Angle, ger Aberdaugleddau.

Daeth saib yng nghyrfa reibus Callis pan gafodd ei arestio ym 1577 a’i lusgo mewn cadwyni i dŵr Llundain. Cafodd ei ddwyn i brawf am ddeg achos sylweddol o fôr-ladrata, ond er ei gael yn euog a’i ddedfrydu i farw ar y crocbren, fe gafodd ddihangfa drwy gynnig tystiolaeth i’r awdurdodau am weithgareddau’r uchelwyr a oedd yn cefnogi môr-ladrata o gwmpas arfordir Prydain.

Wedi ei ryddhau, fe aeth Callis yn ôl yn fuan at ei hen arferion, gan gipio llongau o Sbaen, Ffrainc a Denmarc a gwerthu rhai o’r nwyddau yng Nghaerdydd. Ym 1582 fe ymunodd â chynllun i ddal môr-ladron, ond fe ddefnyddiodd y cyfle i gipio mwy o longau masnach. Dros y pedair blwyddyn nesaf ceir adroddiadau am longau’n cael eu cipio gan Callis ger yr Iwerddon, yr Alban ac ynysoedd yr Orkneys.

Mae ei ddiwedd yn niwlog. Dywed rhai ffynonellau ei fod wedi mentro i Ogledd Affrica i barhau â’i yrfa fel môr-leidr, ond iddo gael ei ladd yno ym 1586 neu 1587. Fodd bynnag, dywed un arall ei fod wedi cael ei grogi yn Wapping am ei droseddau, yng nghwmni dau fôr-leidr arall a oedd wedi ysbeilio llongau ger arfordir Cymru.

 
Hanes Cymru a'r Môr

9:00PM Nos Fawrth
Ail-ddarllediadau ar S4C Digidol 9:00PM Nos Sadwrn
Gydag Isdeitlau Cymraeg