Rhaglen 3
Cwch Magwyr - Cyflwyniad
CyflwyniadCynllun y Cwch
Cliwiau am dynged y Cwch

- Ar lan Afon Hafren
Fe ddaeth archeolegwyr o hyd i greiriau diddorol ym mis Awst 1994 ar wastadoedd mwdlyd afon Hafren ger Magwyr. Fe ddarganfuwyd darnau o long bren o’r Oesoedd Canol, ac wrth i’r safle gael ei archwilio’n fanwl, fe ddaeth yn glir mai hwn yw’r darn mwyaf cyflawn o long o’r cyfnod hwnnw a welwyd erioed yng Nghymru.
O’r 12fed Ganrif ymlaen ceir tystiolaeth am bwysigrwydd llongau o gwmpas arfordir Cymru. Mae cofnodion gweinyddol ac ariannol, ynghyd â thystiolaeth o achosion llys, i gyd yn dangos bod nwyddau’n cael eu mewnforio a’u hallforio ar draws Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Mae llawysgrifau’r 13eg Ganrif yn cynnwys lluniau bychain o longau, ac mae selnodau porthladdoedd Cymru hefyd yn dangos darluniau o’r llongau masnachol a ddefnyddiwyd yn y cyfnod. Fodd bynnag, hyd nes i long Magwyr ddod i’r golwg, nid oedd yr un enghraifft o long Ganoloesol Gymreig wedi ei darganfod. Felly roedd tipyn o gyffro ymysg yr archeolegwyr ar ôl y darganfyddiad hwn o long a oedd yn debyg ei chynllun i longau o’r cyfnod o weddill Gogledd Ewrop, ond gyda rhai nodweddion lleol.

- Severn Levels
Roedd y creiriau ym mwd afon Hafren, tua 500 metr i ffwrdd o’r wal fôr bresennol, mewn lle nad oedd yn sych ond am ddwy awr y naill ochr a’r llall i’r llanw isel. Roedd hyn yn golygu bod y gwaith o archwilio’r safle yn anodd tu-hwnt. Ond fe ddangosodd archwiliad trylwyr ym mis Mai 1995 bod sawl metr o’r llong yn gyfan, a’i bod yn cludo llwyth o fwyn haearn pan y’i drylliwyd. Oherwydd anawsterau cyrraedd y safle, fe benderfynwyd ceisio codi’r llong yn ei chrynswth, yn hytrach na’i chymryd darn wrth ddarn, fel y gwnâi’r archeolegwyr fel arfer.
Fe gafodd y tîm o archeolegwyr, o Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent a’r Amgueddfa Genedlaethol, gymorth gan Laing-GTM, sef y cwmni a oedd wrthi’n adeiladu ail-groesiad yr Hafren ar y pryd. Wrth gydweithio fe lwyddwyd i godi adfeilion y llong, a’u trosglwyddo i danc a oedd wedi adeiladu’n arbennig yng Nghaerdydd.
9:00PM Nos Fawrth
Ail-ddarllediadau ar S4C Digidol 9:00PM Nos Sadwrn
Gydag Isdeitlau Cymraeg