English

Rhaglen 3

Llong Ganoloesol Casnewydd - Cyflwyniad

Cyflwyniad
Cynllun y llong
Creiriau a ddarganfuwyd ar y llong
Tynged y Llong
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol
  • Picture of the new arts centre
  • Y Ganolfan Newydd

Ym mis Gorffennaf 2002 roedd gweithwyr yn cloddio’r sylfeini ar gyfer canolfan newydd i’r celfyddydau ar lannau afon Wysg ger canol Casnewydd pan ddaethon nhw ar draws olion llong o’r canoloesau a oedd wedi’i chadw’n rhyfeddol o dda.

Fe achosodd y darganfyddiad dipyn o ben tost i swyddogion Cyngor y Ddinas, gan yr oeddent yn naturiol yn awyddus iawn i weld Canolfan y Celfyddydau’n agor ar amser. Awgrymwyd fod yr adeiladu’n parhau, ond golygai hyn na fyddai dim ond 5% o weddillion y llong yn cael eu cadw, gyda’r gweddill yn cael eu colli am byth. Fodd bynnag, roedd diddordeb y cyhoedd yn y darganfyddiad yn gryf a’u cefnogaeth yn frwd. Fe safodd y trigolion lleol yn eu miloedd i wylio’r cloddio ac fe grëwyd y grŵp SOS – “Save our Ship” er mwyn pwyso i gadw'r llong rhag cael ei dinistrio.

  • Picture of mud
  • Glannau Afon Wysg

Roedd yr ymgyrch yn un poblogaidd a llwyddiannus, gan ddenu miloedd o lythyrau o gefnogaeth gan y bobl leol yn ogystal ag archeolegwyr arbenigol. Gyda chefnogaeth ariannol gan y Cynulliad Cenedlaethol, fe gyhoeddodd Cyngor Dinas Casnewydd gynllun i ddiogelu’r llong. Roedd y gyllideb o £3.5 miliwn yn ddigon i adael i’r archeolegwyr gwblhau eu cloddio a thrin y creiriau er mwyn eu cadw, a hefyd talu am adeiladu oriel o dan Ganolfan y Celfyddydau i fod yn gartref parhaol i’r llong.

Gan ystyried ei hoedran, mae’r llong mewn cyflwr arbennig, gyda chragen y llong yn gymharol gyflawn, er bod y starn wedi’i colli am byth o dan yr adeilad newydd. Roedd yr ochr starbord yn enwedig wedi’i chadw’n dda, ac mae rhai o’r deciau a strwythur uwch y llong wedi para. Fe alwodd y cefnogwyr y llong y “Mary Rose Gymreig”, mewn cymhariaeth â llong Harri VIII o’r 16eg Ganrif sy’n cael ei chadw yn Portsmouth. Dyma’r enghraifft fwyaf cyflawn sydd wedi goroesi o long o’r 15ed Ganrif yng Ngogledd Ewrop, a’r unig long fasnachol arfog o’r cyfnod. Yn wir, mae rhai wedi dweud bod hon yn ddarganfyddiad pwysicach na’r Mary Rose.

 
Hanes Cymru a'r Môr

9:00PM Nos Fawrth
Ail-ddarllediadau ar S4C Digidol 9:00PM Nos Sadwrn
Gydag Isdeitlau Cymraeg