English

Rhaglen 3

Llong Ganoloesol Casnewydd - Creiriau a ddarganfuwyd ar y llong

Cyflwyniad
Cynllun y llong
Creiriau a ddarganfuwyd ar y llong
Tynged y Llong
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol
  • Ceiniog Portiwgeaidd
  • Ceiniog Portiwgeaidd

Y tu mewn i’r llong fe ddaeth archeolegwyr o hyd i ystod eang o greiriau. Mae rhai ohonynt yn tarddu o Bortiwgal gan ddangos fod y llong yn ymwelydd yno, er enghraifft ceiniogau Portiwgeaidd o’r 15ed Ganrif a chrochenwaith, a darnau mawr o gorc. Roedd rhai o’r darganfyddiadau o’r math y byddai un yn disgwyl eu gweld ar long hwylio, er enghraifft crib, dillad gwlân, esgidiau lledr a darnau eraill o ledr, powlenni pren, nwyddau chwarae ac erwyddi casgenni. Daethpwyd o hyd hefyd i beli canon maen, darnau o raff a thaclau’r rigin, a darn o awrwydr, a fyddai’n cynorthwyo’r môrlywiwr i sefydlu’i leoliad.

Un o’r darganfyddiadau mwyaf cyffrous oedd strapen bres, oedd ag arysgrif Feiblaidd Lladin arni (Luc 4:30) er mwyn amddiffyn y sawl a oedd yn ei gwisgo (“Ond aeth Ef drwy eu canol hwy, ac ymaith ar ei daith”). Mae’n debyg bod hon yn ran o helmed milwr, oddi ar y darn a oedd yn amddiffyn ochr dde ei wyneb. Crair arall sy’n dangos crefft ei wneuthurwr yw darn lledr i amddiffyn arddwrn bwasaethwr, sydd â siâp calon wedi’i argraffu arno, yn ogystal ag arysgrifen Lladin.

  • Llun Strapen Bres
  • Strapen Bres

Un darganfyddiad annisgwyl i’r archeolegwyr oedd dod o hyd i ddarnau o sgerbwd dyn yn y mwd o gwmpas y fframwaith a oedd yn dal y llong.

Fe ddaeth yr archeolegwyr o hyd i weddillion tri phwmp ar gyfer cael gwared o ddŵr o waelodion y llong: un yn y blaen, un yn y cefn ac un wrth droed yr hwylbren. Mae rhai wedi awgrymu bod hwn yn dangos bod y llong yn gollwng dŵr yn ddrwg. Yn bendant mae cragen y llong yn dangos ei bod wedi dioddef amseroedd caled, gyda nifer o fannau lle mae olion ceisio’i thrwsio.

 
Hanes Cymru a'r Môr

9:00PM Nos Fawrth
Ail-ddarllediadau ar S4C Digidol 9:00PM Nos Sadwrn
Gydag Isdeitlau Cymraeg