Rhaglen 3
Llong Ganoloesol Casnewydd - Cynllun y llong
CyflwyniadCynllun y llong
Creiriau a ddarganfuwyd ar y llong
Tynged y Llong
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol

- Glanhau y prenau
Gan fod cynifer o nodweddion y llong wedi’u gwarchod gan fwd yr afon Wysg dros y canrifoedd, mae wedi bod yn bosibl ail-greu golwg y llong. Roedd hi dros 25 metr o hyd ac wyth metr ar draws, gyda’r prif hwylbren yn y canol yn cario hwyl sgwâr, ac efallai dwy hwyl lai ar fastiau yn y blaen ac yn y cefn. Adeiladwyd y llong drwy osod i lawr rhesi o blanciau derw, pob rhes yn gorgyffwrdd â’r un oddi tani, er mwyn creu cragen y llong, ac yna byddai trawstiau’n cael eu rhoi ar draws y strwythur.
Mae elfennau yng nghynllun y llong yn awgrymu dylanwad llongau hir y Llychlynwyr, tra bod nodweddion eraill yn debyg i’r llongau masnachol, a alwyd ‘cog’ neu ‘garafel’, a ddaeth yn boblogaidd yn ystod y 15ed a’r 16eg Ganrifoedd. Felly mae Llong Casnewydd yn dod o gyfnod pan roedd cynlluniau llongau’n esblygu. Roedd hon yn adeg gyffrous i fod yn forwr, pan oedd anturiaethwyr o Ewrop yn hwylio ar draws cefnforoedd y byd am y tro cyntaf, gan ddod o hyd i diroedd newydd.

- Prenau'r llong
Mae’r creiriau a’r darnau o ddillad sydd wedi’u darganfod gan archeolegwyr ar y llong yn dangos ei bod hi’n masnachu â Phortiwgal yn ystod y 1400au. Mae’n debygol bod y llong wedi’i hadeiladu naill ai ar arfordir gogleddol Portiwgal neu Sbaen, neu yn Ne-Ddwyrain Ffrainc, yn rhanbarth Gascony.
Byddai’r llong yn un arfog ei mwyn amddiffyn ei hunan rhag môr-ladron, ac yn ystod amser rhyfel y byddai hi wedi gallu gwasanaethu fel llong rhyfel. Byddai llongau tebyg wedi cael eu defnyddio i gludo milwyr, er enghraifft i symud bwasaethwyr o Gymru i Ffrainc yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd.
9:00PM Nos Fawrth
Ail-ddarllediadau ar S4C Digidol 9:00PM Nos Sadwrn
Gydag Isdeitlau Cymraeg