Rhaglen 3
Llong Ganoloesol Casnewydd - Tynged y Llong
CyflwyniadCynllun y llong
Creiriau a ddarganfuwyd ar y llong
Tynged y Llong
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol

- Crochenwaith o'r llong
Byddai’r llong hon a rhai tebyg wedi cludo nwyddau o gwmpas Ewrop. Byddai cynnyrch o Brydain megis gwlân a brethyn yn cael eu hallforio o borthladdoedd ar Fôr Hafren – ac efallai casgenni o bysgod hallt hefyd – ac yna byddai’r llongau’n dychwelyd o Ewrop gyda chargo o win, sbeisys a nwyddau egsotig eraill. Roedd Casnewydd o dan reolaeth yr Arglwyddi Mers lleol yn hytrach na’r brenin, ac felly fe ddefnyddiwyd y porthladd yn aml gan longau masnach yn y 15ed a’r 16eg Ganrifoedd i osgoi talu’r tollau a oedd i’w talu ym Mryste.
Credir bod y llong wedi’i symud i nant gerllaw Castell Casnewydd er mwyn ei thrwsio rywbryd rhwng 1467 a 1470. Roedd hollt fawr ar waelod yr hwylbren, sy’n awgrymu i rai bod y llong wedi’i niweidio’n ddrwg mewn storom, ac wedi teithio i Gasnewydd i ddod o hyd i loches er mwyn cael ei hatgyweirio.
Gan ddefnyddio technegau archwilio cylchoedd coed i ddarganfod dyddiad y pren, mae’r arbenigwyr yn gallu bod yn sicr bod pren y fframwaith yn dyddio o 1467 neu 1468, a bod y pren derw a ddefnyddiwyd mewn ymgais aflwyddiannus i drwsio’r hwylbren wedi’i dorri naill ai yn hwyr ym 1465 neu’n gynnar ym 1466. Mae’n debygol bod y llong wedyn wedi’i gadael, efallai mewn canlyniad i Ryfeloedd y Rhosynnau, a oedd fel tân gwyllt ar draws Cymru a Lloegr ar y pryd.
9:00PM Nos Fawrth
Ail-ddarllediadau ar S4C Digidol 9:00PM Nos Sadwrn
Gydag Isdeitlau Cymraeg