Rhaglen 3
Llong Ganoloesol Casnewydd - Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol
CyflwyniadCynllun y llong
Creiriau a ddarganfuwyd ar y llong
Tynged y Llong
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol

- Prennau mewn tanciau
Rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2002 achubodd y gweithwyr dros 1700 o ddarnau pren o’r safle a’u trosglwyddo i danciau dŵr. Mae’r gwaith o gofnodi’r darnau a’u cadw yn parhau, gyda’r bwriad yn y pendraw o roi’r darnau at ei gilydd eto i ail-greu’r llong. Mae’r arbenigwyr yn archwilio’r ffordd yr adeiladwyd y llong, gan geisio ateb cwestiynnau megis, sut oedd y llong wedi hwylio, a faint o gargo y byddai hi wedi gallu cludo?
Yn ei gyfanrwydd bydd y proses o gynnal a chadw’r llong yn cymryd rhwng deg a phymtheg mlynedd. Mae’n rhaid trin a thrafod y darnau pren yn ofalus iawn, gan eu cadw’n wlyb yr holl adeg. Mae’r prosiect yn cael cefnogaeth Cyngor Dinas Casnewydd, a’r cynllun ar hyn o bryd yw i ail-adeiladu’r llong mewn ystafell arddangos arbennig yng Nghanolfan Celfyddydau’r ddinas.
9:00PM Nos Fawrth
Ail-ddarllediadau ar S4C Digidol 9:00PM Nos Sadwrn
Gydag Isdeitlau Cymraeg