English

Rhaglen 3

Môr-Ladron a Bycanîrs - Cyflwyniad

Cyflwyniad
Harri Morgan - Arwr neu Ddrwgweithredwr? Pleidleisiwch!
10 Rheswm i ystyried Harri Morgan yn arwr
10 Rheswm i ystyried Harri Morgan yn ddrwgweithredwr
Eich cyfle i bleidleisio!
“Oes Aur” y Môr-Ladron
Bartholomew Roberts – Barti Ddu
  • Picture of pirates

Mae llawer o syniadau rhamantus wedi codi ynghylch môr-ladron yn yr amser a fu, ond y gwir yw fod eu gweithredoedd yn greulon, brwnt a gwaedlyd.

Serch hynny, yng Nghymru, ystyrir dynion fel Harri Morgan a Bartholomew Roberts (Barti Ddu) yn arwyr, a chânt eu portreadu fel unigolion dewr a lywiodd eu llwybr eu hunan, gan gefnu ar fywyd sefydlog gartref a gwawdio ymdrechion yr awdurdodau i’w rhwystro. Fodd bynnag, roedd trachwant wrth wraidd eu gweithgareddau, ac yn wir dyna brif gymhelliad yr holl fôr-ladron dros yr oesoedd.

Roedd môr-ladrata’n rhemp o gwmpas glannau Prydain yn ystod teyrnas Elizabeth I, fel y mae gyrfa John Callice o Dyndyrn yn ei ddangos. Hefyd, mae ei hanes ef yn dangos sut y bu i’r boneddigion gynllwynio â’r môr-ladron ac elwa o’u gweithgareddau.

  • Picture of pirates
  • Môr-ladron

Wedi i’r môr-ladron gael eu hysgubo oddi ar lannau Prydain, symudodd y drwg-weithredwyr i foroedd eraill, ac yn enwedig i’r Caribî. Yno defnyddid tri enw gwahanol ar forwyr a wnaeth eu bywoliaeth drwy ddwyn oddi ar longau pobl eraill: môr-ladron, bycanîrs a phreifatîrs neu herwlongwyr – er bod y tri chategori yn ymddwyn yn debyg iawn i’w gilydd.

Roedd preifatîrs yn dal “llythyr atrais” (“letter of marque”). Dogfen oedd hon oddi wrth lywodraeth a roddai’r hawl i’r capten i gymryd llongau a oedd yn perthyn i wledydd gelyniaethus : byddai’r ddogfen yn nodi’n benodol llongau o ba wledydd oedd yn dargedau cyfreithiol. Yn ei hanfod roedd hon yn ffordd rad i’r llywodraethau allu rhyfela ar y môr, heb iddynt orfod fynd i’r holl drafferth o adeiladu a chriwio eu llongau eu hunain.

Mae’r gair ‘bycanîr’ yn tarddu o’r modd y bu i drigolion y Caribî gadw cig trwy ei rostio ar farbeciw a’i drin â mwg. Yr enw ar y stribedi o gig oedd ‘boucan’, ac fe gawsant eu gwerthu i longau gan yr amrywiol garcharorion a chaethweision a oedd wedi dianc ac yn crwydro arfordiroedd yr ynysoedd. Fe gafodd y dynion yr enw ‘bycanîrs’, ac felly daeth yr un enw i gyfeirio at anturiaethwyr anfoesol ynysoedd India’r Gorllewin.

Tra bod y preifatîrs a’r bycanîrs yn cael eu goddef gan lywodraethau cyfeillgar, roedd y môr-ladron yn esgymuniaid: gelynion pob awdurdod a phob llynges. Yr unig fannau iddyn nhw ddod o hyd i loches oedd mannau a oedd y tu-hwnt i unrhyw gyfraith, ac yn ffodus i fôr-ladron y Caribî roedd digonedd o ynysoedd felly ar gael yn India’r Gorllewin.

 
Hanes Cymru a'r Môr

9:00PM Nos Fawrth
Ail-ddarllediadau ar S4C Digidol 9:00PM Nos Sadwrn
Gydag Isdeitlau Cymraeg