English

Rhaglen 3

Dryllwyr Crugyll

  • Llun cwch being washed up o shore
  • Llongddrylliad

Mae syniadau rhamantus ar led ynghylch dryllwyr, y cymeriadau diegwyddor sydd am elwa ar drychinebau eraill. Ceir cymunedau ar hyd a lled arfordir Prydain lle arferai’r trigolion tlawd edrych ar gargo o longau drylliedig fel manna o’r nefoedd: mannau fel Cernyw ac Ynysoedd Scilly; yr Hebrides a gogledd yr Alban; arfordir Caint a Norfolk; a nifer o fannau ar hyd arfordir tymhestlog Cymru.

Un o’r darluniau mwyaf cyfarwydd o ddryllwyr yw’r drwgweithredwyr yn gosod goleuadau ffug er mwyn twyllo llongau a oedd yn pasio i feddwl eu bod yn agos at harbwr diogel, ac felly denu’r llongau at eu tranc ar greigiau peryglus. Mae gan nofel enwog Daphne Du Maurier, Jamaica Inn, yr holl ystrydebau am sut oedd trigolion Cernyw yn dryllio llongau. Roedd goleuadau twyllodrus i gamarwain y llongau; wrth i’r dioddefwyr straffaglu at y lan, cawsant eu dal o dan y dŵr i’w boddi; a byddai’r ysbeilwyr trachwantus hyd yn oed yn torri bysedd i ffwrdd er mwyn rhwygo modrwyau oddi arnynt.

Fodd bynnag, er gwaethaf y math hyn o straeon mewn amryw o lyfrau, mae’n debyg nad oes unrhyw dystiolaeth bod dryllwyr Cernyw wedi denu llong i’r creigiau’n fwriadol. Yn sicr fe wnaethon nhw elwa ar draul y llongau a ddaeth i’w diwedd ar lannau creigiog Cernyw bob gaeaf, ond yn yr holl achosion llys dros y canrifoedd lle erlynwyd trigolion Cernyw am ysbeilio, smyglo a lladrata, does dim un cofnod o unrhywun yn cael ei gyhuddo o osod goleuadau ffug. Yr unig achos felly oedd achos dryllwyr Crugyll, ger Rhosneigr, ar lannau de-ddwyreiniol Sir Fôn.

Roedd enw drwg gan yr ardal hon yn barod, wrth i’r trigolion elwa o anlwc llongau a deithiodd gerllaw. Cafodd nifer o ddynion eu herlid yn Llys Biwmares ym 1741 am ddwyn oddi ar long o Lerpwl o’r enw Loveday and Betty. Roedd y llong hon yn ddigon anffodus i gael ei gwthio i’r lan yng Nghrugyll tua diwedd 1740. Er i dri o’r dynion gael eu dal yn y weithred o ddwyn nwyddau o’r llong, yn yr achos llys canlynol roedd y barnwr yn feddw gaib ac fe adawodd i’r drwgweithredwyr fynd yn rhydd.

Yna ym 1774 fe gyhuddwyd tri gŵr o Ynys Môn o ddwyn sawl cas o rym a brandi, a nwyddau eraill, gan Capten Chilcote. Roedd yntau’n gapten ar long 80 o dunelli o’r enw Charming Jenny, a oedd yn hwylio o Ddulyn i Waterford pan gododd storom fawr. Honnodd Chilcote iddo gael ei hudo i arfordir Ynys Môn gan oleuadau ffug, ac felly fe ddrylliwyd ei long. Bu farw’r criw o dri wrth i’r llong suddo, ond fe lwyddodd Chilcote a’i wraig gyrraedd y lan ar rafft.

  • Stormy
  • Y môr yn ystod storom

Dywedodd adroddiad Chilcote am yr achlysur nad oedd yn gallu dweud os oedd ei wraig yn fyw neu beidio wrth gyrraedd y lan, ond honnodd fod “ ei gŵn wedi’i gymryd oddi arni, yn ogystal â’i hesgidiau, byclau, cap a hances, a bod ei phocedi wedi cael eu torri ymaith” – pocedi a oedd yn cario ei wats yntau a 70 gini. Ychwanegodd nad oedd ef ei hunan wedi cael ei stripio, ond wrth iddo orwedd wedi blino'n lân ar y traeth, heb fedru siarad, fe ddaeth person â chyllell i fyny ato, gan dorri un o’i esgidiau â’r gyllell a chymryd y byclau arian oddi arnynt. Wrth iddo orwedd yno’n ddiymadferth, fe welodd fod y rhan fwyaf o gargo’i long wedi’i ysgubo i fyny ar y traeth, ac yna fe ddaeth nifer fawr o bobl gyda llongau, ceffylau a chertiau, a dwyn y nwyddau i gyd.

Yn yr achos llys cafwyd un o’r dynion yn ddieuog, ond cafodd y ddau arall eu dedfrydu i gael eu dienyddio am hudo’r llong i’r lan. Cafodd un, Siôn Parry, ei grogi, ond mae’n debyg i’r un arall gael ei drawsforio, yn hytrach na’i ddienyddio.

Serch hynny, fe barhaodd yr arfer o fanteisio ar nwyddau a oedd yn ymddangos ar lannau Ynys Môn. Bu farw llanc o Fodedern o’r enw Owen Hughes ym 1815 ar ôl iddo yfed gormod o rym yr oedd wedi casglu oddi ar longddrylliad. Mor hwyr â mis Hydref 1867, mewn adroddiad am golled y llong Earl of Chester, dywedodd The Times fod “y llongddrylliad bellach yn ysbail i’r dryllwyr ffiaidd sy’n adnabyddus fel ‘lladron Crugyll’. Bu cannoedd ohonynt yno ddoe yn dwyn beth bynnag roeddent yn gallu cario i ffwrdd.”

 
Hanes Cymru a'r Môr

9:00PM Nos Fawrth
Ail-ddarllediadau ar S4C Digidol 9:00PM Nos Sadwrn
Gydag Isdeitlau Cymraeg