Cymru a'r Môr
Sian yn hwylio

- Sian
Er imi gael fy magu ar lannau Mersi, roedd dau linyn o Gymru a'r môr yn rhedeg trwy fy mhlentyndod. Byddai pob un o'n gwyliau'n troi o gwmpas cychod a'r môr, rhywle ar arfordir Cymru - Cemaes, Ynys Môn, gan amlaf.
Ers imi fod yn ifanc, bydda 'nhad yn cymryd fi a'm dau frawd i hwylio. Wrth i ni dyfu, roedd y cychod yn mynd yn fwy. Bellach 'MacWester' - 24 troedfedd o hyd sydd ganddo ni fel teulu - digon o le i bedwar gysgu, os ydach chi'n ffrindiau! Glaslyn yw ei henw, ac mae hi wedi'i hangori yng Nghaernarfon. Mae hi'n hen, ond yn annwyl iawn i ni fel teulu.
Fodd bynnag y dyddiau hyn rwy'n gwneud mwy o hwylio ar gwch o'r enw Madam Wen, sy'n perthyn i ffrindiau o Sir Fôn. Mae hwn dipyn yn fwy - 36 troedfedd, gyda lle i hyd at chwech i gysgu - ac rwy'n cofio wythnos hyfryd o daith arni'r haf cyn diwethaf, yn hwylio o Gaerdydd i'r Felinheli. Wrth deithio i fyny'r arfordir, gallwn weld gwedd y tir a'r creigiau'n newid, a'r cyfan yn profi nad oes yr unlle tebyg i Gymru yn yr haul.

- Y Glaslyn
Dros yr hydref roeddwn yn hwylio yn Madam Wen ac roedd ugeiniau o ddolffiniaid yn nofio gyda'r cwch, yn deifio o dan y cwch yn neidio'n uchel dros y tonnau,yn cael hwyl - roedd yn brofiad hyfryd.
Ers cwpl o flynyddoedd rwy wedi bod yn berchen ar kayak, ac rwy' wrth fy modd yn cael eistedd yn llythrennol yn y dwr, ac yn gallu dod yn agos iawn at fywyd y môr. Rwy'n cofio teithio o gwmpas Ynys Seiriol yn y kayak, a'r morloi yn chwarae o'm cwmpas - roeddwn yn poeni eu bod nhw'n dod yn rhy gyfeillgar!