Croeso i wefan Holi Hana

Cymeriadau

Hana

Hwyaden garedig yw Hana. Does dim byd yn cynhyrfu hon ac mae ganddi ateb i bopeth.

Francis

Mab Hana yw Francis. Fel ei fam, mae bob amser yn barod i helpu. Mae digon yn ei ben ac yn aml, Francis sydd â’r atebion ar flaen ei big. 'Bant a'r cwac!'

Bert

Mae Bert yn arth sy'n hoffi cysgu. Nid yw'n fodlon siarad am ei broblemau.

Elen

Mae Elen yr estrys yn poeni nad yw hi'n gallu hedfan fel yr adar eraill, nes i Hana egluro wrthi nad yw hi fod i hedfan – ond mae'n gallu rhedeg yn gyflym iawn. Mae Elen yn mynd ar goll yn hawdd ac yn tueddu i gladdu ei phen yn y tywod pan mae'n wynebu problem.

Muzzy

Llygoden fach swil yw Muzzy a'r ieuengaf o ffrindiau Francis. Mae Francis wedi cymryd Muzzy o dan ei adain ac nid yw’n gadael i'r gweddill wneud hwyl am ei ben.

Ernie

Ernie'r eryr yw'r bwli yn y grŵp. Ond mae Hana yn gwybod y gall fod yn eryr da petai ond yn trio.

Rosie

Mae Rosie'r panda yn dalach na'r disgyblion eraill yn ei dosbarth. Mae ganddi ddwy droed chwith ond mae'n gryf iawn. Does dim llawer o hyder ganddi, ond mae Hana wrth law i roi hwb iddi

Pen y dudalen

Gweithgareddau a phosteri - lawrlwytho fformat PDF

Pen y dudalen

Arbedwyr sgrîn

Elen yr Estrys

Geiriau 'Moo Baa Double Quack Double Quack'yn disgyn

Prif gymeriadau y gyfres

Pen y dudalen

Papur wal ar gyfer dy gyfrifiadur

Mae'r papur walar gyfer dy gyfrifiadur ar gael mewn 6 maint gwahanol er mwyn siwtio dy sgrîn arbennig di.

  1. Y prif gymeriadau'n sefyll tu allan i'r ysgol:

  2. Hana'n sefyll wrth y ffôn:

  3. Logo Holi Hana ar gefndir glas:

  4. Y plant mewn criw ar gefndir glas:

  5. Y plant mewn criw ar gefndir melyn:

  6. Bert yr Arth o'i ganol i fyny ar gefndir glas:

Pen y dudalen