Rhaglen 4, 4ydd Rhagfyr am 9.30 ar S4C
Bydd Elin yn ymuno â thîm Visit Finland dan gapteniaeth Olly Osborne. Bydd yn hwylio o Qingdao ddechrau Mawrth 2012, ac yn anelu tuag at y Golden Gate Bridge yn San Francisco. Bydd y daith o 5,680 milltir yn cymryd tua 33 o ddyddiau. Mae hyn yn llai na hanner y dyddiau ar y ddau gefnfor arall, ond yn ddwywaith y pellter. Ond heb os nac oni bai, mae Elin yn credu y bydd yr un mor heriol, yr un mor galed ac yn rhoi boddhad mawr iddi!
Bydd Visit Finland yn gobeithio gwella ar yr ail safle cyffredinol gawson nhw ar eu gwibdaith gyntaf yn Cliper 09-10. Ai Cliper 2012 fydd yr un i ennill y Clipper Trophy iddyn nhw tybed?
Mae gan y ferch ffarm Elin Haf [Davies] gariad mawr am antur a heriau eithafol.
Mae hi wedi rhwyfo bron i 6000 milltir ar draws moroedd anodd yr Iwerydd a Chefnfor yr India, ac mae hi'n wirioneddol gyfarwydd â wynebu caledi a pheryglon bywyd ar y môr. Ond fel egin-forwraig, pwy ŵyr beth fydd ei hymateb i'r sgiliau technegol a phrysurdeb bywyd ar iot rasio ar draws y Môr Tawel.
Darllenwch fwy >
Mae criw Visit Finland yn dod o gefndiroedd gwahanol iawn - pobl fel chi a fi sy'n barod i adael eu bywydau normal a chamu y tu allan i'w bywyd cyfforddus i wynebu her eu bywyd.
DARLLENWCH BROFFILIAU'R CRIW

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales