Mae S4C mewn sefyllfa unigryw gan mai hi yw’r unig sianel deledu sy’n bodoli’n unswydd i wasanaethu Cymru. Mae hi wedi datblygu i fod yn gyfrwng hysbysebu pwysig i dargedu poblogaeth Cymru.
Mae S4C yn darlledu ar bob platfform digidol trwy gyfrwng S4C Digidol. Mae cynnwys y sianel hon yn Gymraeg yn gyfan gwbl. Ar y platfform teledu analog, mae 35% o rhaglenni S4C yn rhaglenni Cymraeg. Mae’r ddau wasanaeth hwn yn darlledu rhaglenni sy’n bodloni ystod eang o ddiddordebau, o operâu sebon i raglenni newyddion, ac o raglenni chwaraeon i raglenni drama. Mae’r 65% sy’n weddill o amserlen y sianel analog yn darlledu detholiad o allbwn gorau Channel 4.
Mae S4C yn cynnig effaith a gwerth neilltuol i’r hysbysebwr.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales