Codi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ymysg poblogaeth Cymru.
Cymerodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru y cyfle i noddi bwletinau tywydd S4C yn 2006/7.
Defnyddiwyd deunydd creadigol ar y sgrîn i hyrwyddo negeseuon ymwybyddiaeth llifogydd yr Asiantaeth a helpu i godi proffil perygl llifogydd a chael pobl i baratoi ymlaen llaw ar gyfer llifogydd.
Darlledwyd y deunydd nawdd creadigol y naill ochr i'r bwletinau tywydd dyddiol, bum gwaith y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Roedd y gyfatebiaeth rhwng y noddwr a'r rhaglen yn ddelfrydol. Bu amlder y darllediadau yn fodd o helpu Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i addysgu a hysbysu'r cyhoedd am beryglon llifogydd.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales