Codi proffil Cymdeithas Adeiladu'r Principality ymysg y cyhoedd yng Nghymru.
Principality yw cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru ac fel cefnogwr brwd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, mae'r sefydliad wedi noddi digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Llangollen, y Sioe Frenhinol a Gŵyl y Faenol.
Yn sgîl dod yn noddwr darlledu ar S4C ar gyfer y digwyddiadau hyn ers 2007, ychwanegwyd gwerth at yr ymrwymiad hwnnw, gan gryfhau cysylltiad brand y Principality â gweithgareddau tymor yr haf yng Nghymru.
Gellid cyfoethogi nawdd i ddigwyddiadau a chwaraeon yn sylweddol drwy'r cyswllt a ddaw yn sgîl noddi darllediadau teledu a gall arwain at gyfathrebu effeithiol wedi'i dargedu'n arbennig at gynulleidfaoedd. Dangosir hyn yn glir hefyd drwy'r nawdd i Uwch-gynghrair Rygbi'r Principality ac Uwch-gynghrair Pêl-droed y Principality ar y cae ac ar y sgrîn.
Meddai Pat Ashman, Cydgysylltydd Nawdd y Principality, "Cymru yw'r diriogaeth y mae'r Principality yn gweithredu ynddi ac un o werthoedd ein brand yw bod yn agos at ein cymunedau. I ni mae hynny'n golygu anelu at gyrraedd pawb yng Nghymru mewn rhyw ffordd drwy ein rhaglen nawdd. Drwy ychwanegu cyfleoedd nawdd darlledu S4C at hyn rydym yn gallu ehangu ein cyrhaeddiad yn sylweddol a hynny yn y mannau cywir."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales