"Os bydd cwmni yn hysbysebu yn Gymraeg, mae'n creu argraff dda."
[Ffynhonnell: Beaufort Research]
Mae defnyddio'r Gymraeg yn dangos eich bod yn falch o'r ffaith eich bod yn gwneud busnes yng Nghymru, ac mae'n dangos eich bod yn parchu diwylliant a chymuned y wlad. Gallwch ddyblu apêl eich hysbysebion trwy drefnu bod ein tîm cynhyrchu mewnol yn helpu i ddybio'ch hysbyseb i'r Gymraeg.
Mae 34% o boblogaeth Cymru yn deall Cymraeg.
Mae'r Gymraeg yn iaith sydd ar gynnydd, ac mae pob plentyn yng Nghymru yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol hyd lefel TGAU.
Mae 36% o siaradwyr Cymraeg yn gwylio S4C bob wythnos.
Gallwn roi cyngor i chi ar sut i wneud hyn a'ch helpu gyda'r broses o ddybio hysbysebion Saesneg i'r Gymraeg. Mae gennym nifer o bartneriaethau gyda chwmnïau cynhyrchu a byddwn yn fwy na pharod i'ch rhoi mewn cysylltiad â nhw.
Cysylltwch â dawn.macphail@optimalmediasales.com
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales