Neidio at y cynnwys

S4C

Iolo ac Indiaid America

Dyddiadur Iolo - Cree

Y Cree

Ar ôl siwrnai hir tua'r gogledd o ddinas Montreal yng Nghanada, dwi'n teithio nawr mewn awyren arnofio fach sy'n hedfan dros ddiffeithwch eang gogledd Quebec. Islaw, mae gorchudd trwchus o goed i bob cyfeiriad. Mae'n rhan o Goedwig eang Boreal sy'n croesi Canada o un arfordir i'r llall. Yma ac acw yng nghanol y coed mae cannoedd o lynnoedd llonydd ac afonydd cyflym; ry'n ni'n hedfan uwchlaw'r coed gyda'r peilot yn troi i'r chwith ac i'r dde, wedi'i arwain gan ei wybodaeth o'r dirwedd.

Lluniau

Y Cree

Dwi ar fy ffordd i gwrdd â chenedl y Cree yn Mistissini, un o naw cymuned sy'n ffurfio'r Cree yn James Bay. Mae'r cenhedloedd hyn, sy'n byw ar hyd y glannau ac yn yr ardal helaeth o ddŵr a elwir yn James Bay, yn rhan o bobl ehangach y Cree, y grŵp brodorol mwyaf yng Nghanada.

Top

Cytundeb James Bay a Gogledd Quebec

Yn 1975, llofnododd pobl y Cree Gytundeb James Bay a Gogledd Quebec gyda llywodraeth Canada. Nododd y cytundeb hwn y byddai pobl y Cree, yn gyfnewid am ardaloedd enfawr o dir a fyddai'n cael eu defnyddio ar gyfer datblygiadau trydan dŵr, yn cael iawndal ariannol sylweddol a gwarant y byddai eu hawliau traddodiadol yn cael eu diogelu; newidiodd hyn gwrs eu hanes am byth.

Top

Gwersylloedd Hela

Er bod y Cree yn byw mewn trefi a thai modern heddiw, mae angen mynd yn ôl ymhell mewn hanes i ganfod eu tarddiad yn y rhanbarth hwn. Maen nhw wedi hela yn y coedwigoedd eang ac wedi pysgota yn y llynnoedd a'r afonydd niferus ers canrifoedd. Yn y gorffennol, byddai pobl y Cree wedi byw yn y diffeithwch drwy gydol y flwyddyn, gyda phob teulu yn byw ar ei dir ei hun ac yn goroesi drwy hela, maglu a physgota.

Gyda dyfodiad y masnach ffwr yng ngogledd Quebec tua dechrau'r 18ed ganrif, ymddangosodd gorsafoedd masnachu am y tro cyntaf. Byddai'r rhain, maes o law, yn datblygu'n gymunedau parhaol - y cymunedau y mae'r Cree yn byw ynddynt heddiw. Fodd bynnag, mae llawer o deuluoedd y Cree wedi cadw eu gwersylloedd hela traddodiadol ac yn dal i dreulio misoedd o'r flwyddyn allan yn y diffeithwch - dwi ar fy ffordd i weld gwersyll o'r fath nawr.

Top

Croeso i wersyll Awashish

Ar ôl hedfan am dipyn, mae'r peilot yn pwyntio i'r chwith ac yn dechrau troi i'r cyfeiriad hwnnw. Yn fy nghlustffonau dwi'n clywed e'n dweud mai dyma'r gwersyll. Islaw, dwi'n gweld ynys gyda phedwar neu bump o strwythurau bach arni. Wrth i ni ddisgyn r'yn ni'n hedfan yn union uwchlaw'r coed, gan nesáu at y gwersyll.

Ar ôl clirio'r coed, r'yn ni'n disgyn ychydig fetrau uwchlaw'r llyn ac yna'n glanio'n esmwyth ar y dŵr. Wrth i'r dŵr dasgu mae'r peilot yn dweud "croeso i wersyll Awashish". R'yn ni wedi cyrraedd ac, ar yr ynys, galla' i weld dau ddyn yn aros amdanon ni.

Lluniau

Croeso i wersyll Awashish

Top

George a theulu'r Awashish

Gyda'r awyren wedi'i hangori wrth lanfa bren fach, mae'r peilot yn dringo allan ac yn dechrau paratoi'r awyren am ei siwrnai nesaf. Yn y cyfamser, mae'r ddau ddyn yn brysur yn dadlwytho'r awyren, felly dwi'n dringo allan o'r caban ac i mewn i'r howld i roi help llaw iddyn nhw. Dwi'n camu oddi ar yr awyren, yn cyflwyno fy hun ac yn cael fy nghroesawu gan George Awashish, pennaeth y teulu.

Gyda'r holl offer wedi'u dadlwytho, mae brawd George, Leslie, yn dringo ar fwrdd yr awyren. Mae'n mynd yn ôl i'r dref. R'yn ni'n ffarwelio â nhw ac mae'r awyren yn hedfan dros ein pennau. Gyda hynny, mae George yn mynd â mi i'r gwersyll i gwrdd â'i deulu. Ry'n ni'n cerdded i fyny o'r traeth i droedffordd bren sy'n arwain at dri strwythur hanner pren, hanner cynfas.

R'yn ni'n cerdded i mewn i'r strwythur cyntaf a dwi'n cael fy nghyflwyno i wraig George, Jeanette, ei nai Victor a'i fam Minnie, gwraig oedrannus iawn â gwên fawr ar ei hwyneb. Yn y caban mae pedwar gwely, bwrdd bach â radio CB arno a stôf sy'n llosgi coed. Dwi'n treulio rhywfaint o amser yn siarad â George a Jeanette, ond mae George yn esbonio mai iaith y Cree yw'r unig iaith y mae Minnie yn ei siarad, felly mae'n mynd ati i gyfieithu.

Lluniau

George a theulu'r Awashish

Top

Taith o amgylch y gwersyll

Mae'n dal yn gynnar yn y prynhawn ac mae'r haul yn gwenu'n braf y tu allan felly mae George yn penderfynu mynd â mi ar daith o amgylch y gwersyll. Mae'n dangos i mi lle y bydda' i a'r criw ffilmio yn cysgu - mewn caban tebyg i'w un nhw. Y tu allan, mae dau doiled compost ac un neu ddwy storfa lle mae George yn cadw ei offer hela a physgota. Mae hyd yn oed setiau o baneli solar wedi'u dotio fan hyn a fan draw o amgylch y gwersyll. Mae George yn egluro eu bod nhw'n rhoi digon o drydan iddyn nhw.

Lluniau

Taith o amgylch y gwersyll

Top

Pysgota

Gyda'r daith o amgylch y gwersyll ar ben, mae George yn awyddus i fynd i bysgota yn y gobaith y gallwn ddal rhywbeth i swper. Dwi'n dilyn George i lawr tuag at y traeth lle mae cwch bach wedi'i angori wrth y lanfa. Gyda reiffl yn ei law, mae George yn egluro nad dyma'r amser gorau o'r diwrnod i hela, ond mae'n well bod yn barod.

Javascript and Flash are required to view these videos
Pysgota

R'yn ni'n dringo i mewn i'r cwch ac mae George yn dechrau'r modur allanol. R'yn ni'n teithio'n araf i ddechrau ac yna'n cyflymu wrth i ni fynd allan i'r llyn. Mae George yn llywio'r cwch drwy sianeli cyflym a rhwng creigiau. Mae'n amlwg yn adnabod y tir hwn a'r dyfroedd hyn fel cefn ei law.

Ar ôl tipyn r'yn ni'n cyrraedd ein cyrchfan ac mae George yn stopio'r cwch. Mae'n mynd ati ar unwaith i baratoi ei rwyd bysgota. Mae'n egluro na alla' i ei helpu i bysgota - dwi ddim yn un o'r Cree ac, o ganlyniad, mae'n rhaid i mi ddilyn rheoliadau caeth. Mae George, ar y llaw arall, ond yn cael ei reoli gan natur a gall bysgota am fwyd drwy gydol y flwyddyn.

Mewn dim o dro, mae George wedi taflu ei rwyd i'r dŵr ac yn egluro y bydd yn dychwelyd mewn ychydig ddyddiau i weld beth mae wedi'i ddal. Yn y cyfamser, mae angen rhywbeth ar gyfer swper o hyd. Gyda'r modur wedi'i danio unwaith eto, r'yn ni ar ein ffordd i un o hoff lecynnau pysgota George.

Top

Mwy o Bysgota

Ychydig i lawr yr afon, r'yn ni'n cyrraedd dyfroedd geirw ac mae George yn tywys y cwch i'r lan. Dwi'n ei helpu i'n tynnu ni i mewn ac mae George yn cydio yn ei wialen bysgota. R'yn ni'n gwneud ein ffordd draw tuag at y man lle mae'r afon yn llifo'n gyflym dros y creigiau ac mae George yn bwrw ei wialen.

Wrth i ni aros i'r pysgod frathu, mae George yn sôn wrtha' i bod y tir hwn wedi bod yn ei deulu ers cenedlaethau. Mae'r tir dros 2,500 km² - deirgwaith maint Ynys Môn. Sonia George ei fod wedi teithio i bob rhan o'i dir dros y blynyddoedd. Mae'n adnabod pob llyn a phob llecyn o dir.

Lluniau

Mwy o Bysgota

Ar ôl ychydig, mae George yn gweld symudiad yn y dŵr, yn gollwng ei wialen i mewn ac yn tynnu penhwyad allan. Mae'n cydio ynddo ond yn anffodus dyw'r un yma ddim yn ddigon mawr i ni fynd ag e' adref i swper ac felly mae George yn ei ollwng yn ôl. Mae'n dechrau nosi ac r'yn ni'n dechrau gwneud ein ffordd yn ôl i'r gwersyll. Wrth i ni hwylio, dwi'n syllu ar y dirwedd anhygoel hon. Mae'r hydref wedi cyrraedd a'r coed yn troi'n oren a choch llachar. Mae dyfroedd ffres y llynnoedd yn sgleinio yn y machlud haul. Mae hwn yn ddifeithdir gwirioneddol ddilychwin.

Top

Helfa'r Bore

Mae hi tua phump o'r gloch y bore, ac wrth i'r haul godi dros arwyneb drychaidd y llyn a niwl cynnar y bore yn gorchuddio'r tir, ry'n ni eisoes ar ein traed. Efallai na chawson ni lawer o lwc gyda'r pysgota ddoe ond mae George yn awyddus i fynd allan yn gynnar heddiw i hela anifeiliaid. Y tro hwn, mae ei nai Victor yn ymuno â ni.

Lluniau

Helfa'r Bore

Mae'r dirwedd hon yn gartref i lu o fywyd gwyllt yn cynnwys bleiddiaid, eirth ac elc, a hela'r olaf y byddwn y bore 'ma. Mae'r elc yn anifail sydd wedi'i hela gan y Cree ers tro. Yn ôl allan yn y cwch, mae George yn gyrru'n araf o amgylch y llynnoedd a'r dyfrffyrdd, gan ddefnyddio ei wybodaeth o'r tir unwaith eto i'w arwain.

Top

Elc

Mae'n egluro mai dyma'r amser gorau i hela elc - cyn i'r haul godi'n llwyr pan fyddan nhw i'w gweld wrth lannau'r dŵr. Wrth i ni deithio'n esmwyth, mae George yn cadw golwg graff ar y draethlin o amgylch, gan godi ei sbienddrych bob hyn a hyn i gymryd golwg agosach ar gysgod neu symudiad amheus yn y coed. Ond, hyd yma, does dim byd i'w weld. Ac ar wahân i dwrw araf y modur allanol a galwadau achlysurol y gwyddau uwchlaw sy'n mudo i'r de, mae'r tir yn llonydd a thawel.

Javascript and Flash are required to view these videos
Pysgota

Gyda'r haul uwchlaw brigau'r coed, mae George yn llywio'r cwch tuag at lannau tywodlyd y llyn - mae e' wedi gweld rhywbeth ar y tir. R'yn ni'n dringo allan ac mae George yn arwain y ffordd. Mae'n pwyntio at nifer o olion traed yn y tywod - does dim llawer o amser wedi mynd heibio ers i elc fod yma.

Top

Gelyn Hela

Wrth i Victor a minnau ddilyn yn agos y tu ôl iddo, mae George yn egluro sut y gall weld dwy set o olion traed yn y tywod. Y cyntaf yw'r elc, ond yn dilyn yn agos y tu ôl iddyn nhw mae olion blaidd - does dim dwywaith ein bod yn rhannu'r un nod. Gyda blaidd yn yr ardal, mae George yn dweud y bydd yr hela'n anoddach fyth.

Lluniau

Gelyn Hela

Er hynny, does dim un daith hela yn wastraff amser i George. Mae'n ffordd o addysgu Victor am ffyrdd y Cree a, thrwy'r gwersi hyn, bydd yn dysgu sut i hela ar ei ben ei hun yn y pen draw. Mae hyn yn bwysig iawn i George; mae e' am drosglwyddo'i wybodaeth o'r tir ac yn awyddus i'r genhedlaeth nesaf o'r Cree barhau â'u harferion traddodiadol.

Top

Dychwelyd i'r Gwersyll

Mae George yn penderfynu rhoi'r gorau i'r hela am y bore; mae unrhyw elc sydd yn yr ardal yn debygol o fod wedi'i ddychryn gan bresenoldeb blaidd. A beth bynnag, mae digon o waith i'w wneud fel rhan o fywyd bob dydd yn y diffeithwch.

Lluniau

Dychwelyd i'r Gwersyll

Yn ôl yn y gwersyll, mae Minnie a Jeanette yn sgwrsio yn y caban. Dwi'n cymryd munud i ddangos i Victor rai lluniau o Gymru o'r llyfr y rhoies i iddyn nhw. Mae e' a Minnie wedi'u rhyfeddu gan gefn gwlad a chestyll Cymru.

Top

Coed Tân

Er bod gan deulu'r Awashish baneli solar bellach i ddarparu trydan, mae'n nhw'n dal i ddibynnu ar goed i roi gwres. Gyda'r gaeaf yn prysur agosáu, gall y tymheredd ddisgyn i gyn lleied â -30°C felly mae'n bwysig bod digon o goed tân ar gael bob amser.

Lluniau

Coed Tân

Gyda berfa o'i flaen, mae George yn arwain y ffordd i'r man lle y mae'n cadw stoc o foncyffion. Ro'n i'n barod am ychydig oriau o waith caled yn torri'r coed tân â bwa, ond fel dwi wedi gweld eisoes gyda'r paneli solar, mae George yn manteisio i'r eithaf ar dechnoleg fodern. Dyw e' ddim yn cymryd fawr ddim amser i wneud y gwaith gyda chymorth llif gadwyn.

Mae'n egluro bod ganddo system fordwyo GPS hefyd i'w helpu i ddod o hyd i lefydd penodol yn ei diriogaeth hela. Mae'n chwerthin wrth ddweud bod y GPS gyntaf yn ei ben, ond os bydd honno'n methu, mae wastad yn beth da i gael un wrth gefn. Sonia er ei fod yn bwysig iddo ef a phobl y Cree gynnal eu traddodiadau, mae'n bwysig hefyd eu bod yn symud gyda'r oes.

Top

Gwledd Deuluol

Wrth i'r haul fachlud ac wrth iddi ddechrau nosi, r'yn ni i gyd yn mynd i gaban y teulu lle mae Minnie a Jeanette wedi gosod y bwrdd ac wedi paratoi bwyd. Mae'r fwydlen yn cynnwys reis, bara wedi'i ffrïo a chig elc - un o'r anifeiliaid a laddwyd gan George yn gynharach yn y flwyddyn.

Lluniau

Gwledd Deuluol

Mae George yn sôn yr hoffai achub ar y cyfle i ddiolch i mi am ddod i aros gydag ef a'i deulu i ddysgu am eu ffyrdd traddodiadol. Fy nhro i ydyw wedyn i ddiolch iddyn nhw am eu croeso cynnes, eu lletygarwch ac am bopeth y maen nhw wedi'i rannu gyda mi dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf.

Top

Offrwm

Yna, mae George yn egluro y bydd yn rhoi offrwm o fwyd i ddiolch i'r creadwr am yr hyn a ddarparwyd ac i anrhydeddu ei dad, a fu farw y llynedd ac a oedd yn bennaeth y teulu cyn George. Mae'n rhoi ychydig o'r bwyd i mewn i ddarn o ffoil ac yna'n ei osod ar y stôf; yn y cyfamser, mae Minnie yn adrodd gweddi fer ac mae'r gweddill ohonom yn ymdawelu.

Ar ôl i Minnie orffen ei gweddi, r'yn ni i gyd yn mynd ati i fwyta. Mae'r elc yn dda - dyw e' ddim mor gryf â charw ond yn llai brasterog na chig eidion ac iddo fwy o flas. Mae teulu'r Awashish wedi rhoi croeso arbennig i mi. Efallai mai dim ond am ychydig ddiwrnodau dwi wedi bod yma ond maen nhw wedi gwneud i mi deimlo'n gartrefol iawn allan yma yn y diffeithwch.

Top

Dalfa Annisgwyl

Mae'n ddechrau cynnar unwaith eto fore drannoeth. Ry'n ni nôl yn y cwch ac yn ôl ar y llyn i weld beth sydd yn y rhwyd bysgota. Yn ôl yr arfer, mae George yn dod â'i wn gydag ef rhag ofn y byddwn yn gweld rhywbeth ar ein ffordd. Ar ôl gyrru am beth amser ry'n ni'n agosáu at y rhwyd.

Lluniau

Dalfa Annisgwyl

Javascript and Flash are required to view these videos
Pysgota

Yn y dŵr, r'yn ni'n sylwi ar rywbeth yn sblasio o gwmpas. I ddechrau r'on i'n meddwl mai pysgodyn oedd yno, ond wrth agosáu dwi'n gweld mai aderyn sydd wedi'i ddal yn y rhwyd. Mae George yn tywys y cwch tuag at yr aderyn ac yn ei godi allan o'r dŵr. Gwyach yr Arctig ydyw.

Dwi'n dal fy ngafael ar yr aderyn i'w rwystro rhag fflapian, ac mae George yn datglymu'r rhwyd sydd wedi mynd yn sownd wrth ei goesau. Mae'r ffaith ei fod e'n cymryd yr amser i wneud hyn yn creu argraff arna i, ac mae e' hyd yn oed yn difrodi ei rwyd ei hun wrth geisio rhyddhau'r aderyn. Dyw hi ddim yn cymryd llawer o amser i ryddhau'r aderyn a dwi'n ei daflu yn ôl i mewn i'r dŵr. Mae'n deifio'n syth o dan y dŵr ac yn diflannu o'r golwg.

Top

Yn ôl i'r Ddalfa

Gyda'r gwaith hwnnw wedi'i wneud, mae'n amser canolbwyntio unwaith eto ar y rheswm r'yn ni yma - i ddal pysgod. Mae George yn dechrau tynnu'r cwch ar hyd y rhwyd gan dynnu'r rhwyd i'r wyneb wrth fynd. Yn y diwedd, mae'n teimlo pwysau yn y rhwyd ac mae pysgodyn enfawr yn ymddangos o'r dŵr - stwrsiwn. Gallan nhw dyfu hyd at ychydig fetrau o hyd - ychydig droedfeddi yw hwn ond mae e'n dal yn bysgodyn mawr.

Gyda un pysgodyn yn y cwch, dyw e' ddim yn hir nes i George geisio cael gafael ar yr un nesa'. Mewn rhannau eraill o'r byd, mae'r gronellau o'r pysgodyn hwn yn cael eu hystyried yn ddanteithfwyd, cafiar, ond yma caiff y pysgodyn i gyd ei fwyta.

Y peth nesaf i ymddangos o'r dŵr yw penhwyad mawr, ychydig droedfeddi o hyd, gyda dannedd miniog iawn. Mae George yn tynnu un stwrsiwn arall o faint tebyg o'r dŵr, felly mae ganddon ni bedwar pysgodyn mawr i fynd â nhw nôl i'r gwersyll. Dylen nhw roi sawl pryd da i George a'i deulu.

Top

Yr Awyren

Dwi wedi cael amser anhygoel gyda George a'i deulu, ond mae llawer mwy i genedl y Cree na hela a physgota, felly dwi wedi trefnu i deithio i dref Mistissini, i weld sut fywyd sydd gan gymuned y Cree yn yr 21ain ganrif. Ry'n ni'n aros gyda'n hoffer allan ar y traeth ac, ymhen hir a hwyr, r'yn ni'n clywed sŵn gwan yr awyren arnofio wrth iddi ymddangos.

Mae'r awyren yn disgyn dros y llyn, yn glanio ac yn cael ei gyrru tuag aton ni. Gyda'r awyren wedi'i chlymu i'r ysgraff, r'yn ni'n llwytho ac yn ffarwelio â George a'i deulu. Ond bydda' i'n dychwelyd cyn i'm hamser gyda'r Cree ddod i ben.

Top

Phil y Peilot

Gyda'r criw yn ddiogel yn yr awyren, y gwiriadau cyn-hedfan wedi'u gwneud a'r awyren yn rhydd o'r ysgraff, mae'r injan yn cael ei thanio a'r propelor yn dechrau troi. R'yn ni'n gwneud ein ffordd allan i'r llyn cyn i Phil, y peilot, bwyso'r sbardun; r'yn ni'n dechrau cyflymu ac yn esgyn o'r llyn, gan chwifio llaw ar George islaw.

Lluniau

Phil y Peilot

Wrth i ni hedfan uwchlaw'r coed unwaith eto, dwi'n cael fy atgoffa pa mor eang ac anhygoel yw'r dirwedd. Coedwigoedd trwchus yn ymestyn yr holl ffordd i'r gorwel a llynnoedd ac afonydd yn igam-ogamu drwyddynt. Mae Phil yn dod o hyd i'w ffordd drwy olwg yn unig. Cafodd ei eni allan yn y diffeithwch ac mae bellach yn hedfan teuluoedd i'w gwersylloedd drwy'r flwyddyn. Mae ganddo wybodaeth fanwl o'r dirwedd ac mae ei bersbectif unigryw wedi caniatáu iddo weld y newidiadau dros amser.

Top

Mwynglawdd Aur

Fe soniodd wrtha' i ei fod wedi gweld llawer o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy a mwy o ffyrdd yn cael eu hadeiladu a mwy a mwy o ddiwydiannau yn ymsefydlu yn eu tiriogaeth. Yn ogystal â'r datblygiadau trydan dŵr tua'r gogledd, mae gwaith logio a chloddio hefyd yn amlwg.

Nid yw'n hir cyn i mi weld y newidiadau hyn drosof fi fy hun. O'n blaenau ac i'r dde dwi'n gweld llecyn agored enfawr yn y coed ac wrth i ni agosáu dwi'n gweld pam. Mae mwynglawdd aur enfawr wedi'i gloddio yma ac mae twll enfawr yn y tir - miloedd o droedfeddi o ddyfnder a miloedd o droedfeddi o led. O amgylch y mwynglawdd mae'r coed wedi'u clirio a gellir gweld ffyrdd yn arwain i ffwrdd o'r safle. Mae'n graith ar y diffeithwch anhygoel hwn.

Mae Phil yn dweud ei fod yn anhapus ynglŷn â'r newidiadau hyn a gyda sôn bod cwmnïau anfrodorol yn bwriadu adeiladu mwy o fwyngloddiau, mae'n pryderu am ddyfodol y tir hwn. Mae'n ofni bod pethau'n datblygu'n rhy gyflym.

Top

Mistissini

Gyda'r mwynglawdd yn diflannu i'r pellter, r'yn ni'n nesáu at arwydd arall o fywyd modern - tref Mistissini. Yn wreiddiol, deuai teuluoedd y Cree i'r dref hon i fasnachu ffwr gydag ymsefydlwyr o Ewrop, ond daeth y dref yn anheddiad parhaol maes o law. Heddiw, dyma lle mae'r rhan fwyaf o'r Cree yn byw y rhan fwyaf o'r amser, gan ddychwelyd i'r diffeithwch i hela yn unig.

Wrth i ni hedfan uwchben, galla' i weld bod hon yn dref eitha' sylweddol, gyda ffyrdd, tai modern a llawer o waith adeiladu. R'yn ni'n sgimio'r coed ac yn glanio ar Lyn Mistassini. R'yn ni'n nesáu at yr ysgraff - Maes Awyr Mistissini mae'n rhaid.

Top

Ychydig o Sioc

Gan adael yr awyren ar lannau'r afon, dwi'n gwneud fy ffordd i mewn i'r dref, ac mae'r hyn dwi'n ei weld yn eitha' sioc. Yn wahanol iawn i'r gwersyll yn y diffeithwch, mae hon yn dref fodern iawn. Mae'r tai i gyd yn edrych yn newydd sbon ac maen nhw'n anferth. Ac mae'n ymddangos bod llawer mwy yn cael eu hadeiladu hefyd. Wrth i mi wneud fy ffordd o amgylch y dref, mae pobl yn stopio i ddweud helo ac mae gan y plant lleol ddiddordeb mawr yn y camera. Mae'n ymddangos fel pe bai hon yn gymuned ffyniannus.

O dan Gytundeb James Bay a Gogledd Quebec, cafodd Cenhedloedd y Cree symiau sylweddol o arian am y tir y rhoeson nhw'r gorau iddo ar gyfer datblygiadau trydan dŵr. Ond, o dan yr un cytundeb, fe wnaethon nhw negodi i gael ysbytai ac ysgolion newydd a chyfleusterau eraill, gyda phob un ohonyn nhw bellach ar waith.

Yn ogystal â'r adeiladau swyddogol, mae rhai busnesau lleol hefyd gan gynnwys garejys, archfarchnad, gwesty, bwyty a siop cyfarpar awyr agored. Dwi hyd yn oed yn galw heibio i'r ganolfan chwaraeon leol sydd â champfa a rinc sglefrio maint llawn lle mae'r tîm hoci iâ lleol yn chwarae.

Top

Y Dirprwy Bennaeth

Tra fy mod yn Mistissini, dwi wedi trefnu i gwrdd â Dirprwy Bennaeth cymunedau unedig Cree James Bay, Ashley Iserhoff. Caf fy nghyfarch gan Ashley wrth i mi gerdded i mewn i swyddfa newydd y Llywodraeth a chaf gyfle i siarad ag ef yn ei swyddfa.

Mae'n dweud wrtha' i bod llawer iawn o bwysau ar bobl y Cree i rannu eu hadnoddau naturiol gyda gweddill Canada, ond drwy wrando ar gyngor henaduriaid y gymuned maen nhw wedi llwyddo i foderneiddio heb golli eu diwylliant. Mae'n dweud bod pawb yn dal i siarad yr iaith Cree a bod pobl wedi cadw eu traddodiadau. Maen nhw wedi llwyddo i symud o'r gorffennol i'r presennol heb golli eu cyfeiriad.

Mae'n wych clywed am y ffordd y mae pobl y Cree wedi llwyddo i gyflawni'r datblygiadau hyn tra'n rhoi blaenoriaeth i'w traddodiadau, eu hiaith a'u tir ar yr un pryd. Gyda phobl fel y Dirprwy Bennaeth wrth y llyw, dwi'n gobeithio y byddan nhw'n dal eu gafael ar y dyheadau hyn.

Top

Afanc

Dwi'n gadael swyddfa'r Pennaeth ac yn ailgychwyn ar fy nhaith o amgylch y dref. Wrth i un cerbyd 4x4 yrru heibio dwi'n sylwi bod afanc marw yn y cefn. Dwi'n awyddus i wybod mwy, felly dwi'n mynd draw i gael golwg agosach. Mae'r perchennog yn egluro ei fod wedi maglu'r afanc ar ei diriogaeth hela. Afanc canolig ei faint yw hwn ac maen nhw'n anifeiliaid da i'w bwyta yn ôl y sôn - yn enwedig y cynffon.

Afanc

Javascript and Flash are required to view these videos
Pysgota
Top

Elc

Dyw treftadaeth hela'r Cree fyth yn rhy bell i ffwrdd wrth i mi sylwi ar gerbyd 4x4 â tharw mawr yn y cefn. Mae'r ddau ddyn sy'n sefyll wrth ymyl y tryc yn egluro eu bod nhw wedi saethu'r elc yn agos at eu gwersyll yn gynharach. Dwi'n achub ar y cyfle hwn i ddarganfod beth yw barn pobl Mistissini am y newidiadau sy'n wynebu tiriogaeth y Cree.

Dyw'r helwyr ddim yn credu y dylid gwerthu eu tiroedd i ddatblygwyr - mae'r tir yn rhan o'u treftadaeth ac mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i ofalu amdano. Mae un o'r dynion yn dweud iddo dreulio cyfnod yn gweithio mewn mwynglawdd aur ond ei fod bellach yn hela am ei fywoliaeth unwaith eto. Mae'n amlwg bod dyhead gwirioneddol i barhau â'r traddodiadau hyn.

Top

Y Dirwedd

Wrth gerdded ar hyd glannau'r llyn, nid nepell o'r dref, dwi'n meddwl am y lle anhygoel sydd gan bobl y Cree yma. Mae'r dref yn fodern iawn ac yn ymddangos fel pe bai'n datblygu yn y ffyrdd iawn tra, ar yr un pryd, maen nhw'n byw yng nghanol eu tiriogaeth draddodiadol, wedi'u hamgylchynu gan ddiffeithwch anhygoel i bob cyfeiriad.

Er na allaf ond poeni am yr hyn sy'n wynebu'r dirwedd hon yn y dyfodol, mae newidiadau eisoes yn amlwg. Mae mwy o ddiwydiannau anfrodorol yn awyddus i ddatblygu'r tiroedd hyn ac mae angen arian a swyddi ar bobl y Cree, ond mae hyn yn gwbl groes i'w ffyrdd hunangynhaliol traddodiadol; mae llawer o bwysau arnyn nhw i fanteisio ar yr adnoddau sydd o'u hamgylch.

Top

Kevin Neeposh - Rheolwr Parc

Er mwyn dysgu mwy am ddyfodol tiroedd y Cree, dwi wedi trefnu i gwrdd â Kevin Neeposh sydd, yn ôl y sôn, yn ymwneud yn agos ag unrhyw gynlluniau ar gyfer y dirwedd hon. Mae Kevin yn ein gyrru ni allan o'r dref. Mae'r ffordd yn mynd â ni drwy goedwig drwchus, ac mae'r dail ar y coed yn oren llachar.

Ar y ffordd, mae Kevin yn egluro mai ef yw rheolwr parc newydd y mae pobl y Cree yn ei greu. Bydd y parc yn troi 11,000km² o diroedd y Cree yn ddiffeithwch wedi'i ddiogelu. Bydd ffiniau'r parc hwn yn croesi neu'n amgáu tiroedd hela 37 o deuluoedd a bydd yn sicrhau bod cydberthynas y Cree, ar y tir hwn beth bynnag, yn cael ei chynnal.

Top

Diwydiant

Dwi'n falch o glywed bod camau o'r fath eisoes ar waith, ond wrth i ni yrru i lawr y ffordd daw'n amlwg bod angen dirfawr amdanyn nhw. Ry'n ni'n pasio cloddwyr, dadlwythwyr a theirw dur - arwyddion o'r diwydiant yn y rhanbarth.

O'r diwedd, r'yn ni'n cyrraedd ein cyrchfan. Mae'r coed yn diflannu ac r'yn ni'n dod i lecyn agored enfawr. Mae'r coed wedi'u torri i lawr ar ddwy ochr y ffordd gan adael tirwedd wag wedi'i thaenu â stympiau a changhennau coed. Mae hyn yn ein hatgoffa o'r dynged a allai wynebu mwy o diroedd y Cree.

Top

Y Parc

Ry'n ni'n stopio, yn dringo allan o'r car ac yn mynd am dro ar draws y tir diffrwyth hwn, gydag olion y coed sydd wedi'u torri i lawr yn clecian o dan ein traed. Wrth i ni gerdded, mae Kevin yn dweud bod pawb yn awyddus i foderneiddio, ond bod yn rhaid i'r gwaith o gynnal y diwylliant gael blaenoriaeth dros arian. Gyda'r parc newydd hwn, mae'n sôn eu bod nhw'n bwriadu troi rhywfaint o'u tiroedd hela yn ardal wedi'i diogelu. Gall y Cree fyw a hela yno, ond ni all unrhyw un ddefnyddio'r tir i wneud elw.

Mae Kevin yn disgrifio sut y gwneir penderfyniadau ynghylch y defnydd o dir. Maen nhw'n trafod cynlluniau yn gyhoeddus ac os ceir gwrthwynebiad maen nhw'n troi at henaduriaid y llwyth am gyngor. Mae'r parc hwn yn swnio fel syniad ffantastig ac, os bydd yn gweithio, y gobaith yw y bydd y diffeithwch hwn yn cael ei ddiogelu am byth.

Top

Yn ôl i'r Gwersyll

Fore drannoeth, mae'n amser i mi wneud fy ffordd yn ôl i'r gwersyll i weld George a'i deulu cyn i mi ffarwelio â phobl y Cree. Mae'r amser dwi wedi'i dreulio yn y dref wedi bod yn agoriad llygad. Dwi wedi sylweddoli pa mor fodern yw'r gymuned hon ac wedi dysgu bod cyfnod anodd yn eu hwynebu nhw. Ond mae ganddon nhw'r unigolion a'r syniadau a fydd, gobeithio, yn helpu cymuned Mistissini i ddatblygu yn y ffyrdd cywir.

Unwaith eto, Phil y peilot sy'n fy nhywys drwy'r dirwedd hon, ond dwi'n dechrau meddwl y buaswn i'n gallu dod o hyd i'm ffordd yn ôl i wersyll Awashish fy hun. R'yn ni'n paratoi i lanio unwaith eto ac mae George yno i'm croesawu. Mae'n dda bod nôl. Er i mi fwynhau'r amser y gwnes i ei dreulio yn y dref, byddai'n well o lawer gen i fod allan yma.

Top

Minnie Awashish

Cyn i mi adael dwi am siarad â Minnie, mam George. Yn ystod fy amser yma dwi wedi siarad â llawer o genedlaethau iau'r Cree, ond fel un o'r henaduriaid dwi am wybod beth yw barn Minnie am y newidiadau i fywyd a thir y Cree.

Wrth iddi eistedd ar ei gwely yn gwneud mocasinau i'w gwerthu yn y dref, a chyda George yn cyfieithu, mae Minnie yn sôn bod teuluoedd yn agos pan roedd hi'n iau. Roedd pawb yn helpu ei gilydd. Yn ôl Minnie, mae'n ymddangos fel pe bai pobl yn hapusach yn y gorffennol ac er bod hwn yn gyfnod toreithiog, mae rhai pethau wedi newid er gwaeth. Mae'n dweud nad yw plant yn cymryd llawer o ddiddordeb yn yr hen ffyrdd mwyach a bod yn well o lawer ganddyn nhw wylio'r teledu.

Lluniau

Minnie Awashish

Mae Minnie yn estyn am ei llyfr gweddi sydd ar y bwrdd ac yn ei roi i mi. Llysgenhadon oedd yn gyfrifol am gyflwyno Cristnogaeth i'r ardal ac mae hyn hefyd wedi cael effaith enfawr ar eu traddodiadau. Mae'n mynd ymlaen i fynegi ei phryderon am yr effaith y bydd y datblygiadau newydd yn ei chael ac am bobl yn canolbwyntio'n ormodol ar arian. Mae hefyd yn mynegi pryderon y bydd datblygiadau o'r fath yn cael effaith negyddol ar natur hefyd. Mae'n dweud nad yw hi erioed wedi gweld lefelau'r afon mor isel â hyn a bod nifer yr afanc yn lleihau hefyd. Mae Minnie yn wraig ddoeth a dwi'n rhannu ei phryderon.

Top

Yr Helfa Olaf

Mae George yn heliwr penderfynol ac mae'n awyddus i fynd â mi allan i hela eto. Hela afancod y byddwn ni'n ei wneud y tro hwn. Ni waeth p'un a ddaliwn ni rywbeth ai peidio, dwi wastad yn hapus i weld mwy o'r dirwedd anhygoel hon. Mae Victor yn ymuno â ni eto ac r'yn ni'n dringo yn ôl i mewn i'r cwch ac yn gwneud ein ffordd i lawr yr afon i'r man lle y gwŷr George y mae rhai o lochesi'r afancod.

R'yn ni'n cyrraedd glan garegog ac yn tynnu'r cwch i'r lan. Mae George yn dweud wrtha' i bod yr afancod wedi adeiladu eu llochesi ar lynnoedd bach ar y tir gan fod lefelau'r dŵr yn yr afon yn is na'r arfer eleni. Mae George a Victor yn cydio yn eu gynnau ac yn rhoi gwialen bysgota i mi. Bydd y wialen yn cael ei defnyddio i dynnu'r afanc allan o'r llyn ar ôl iddo gael ei saethu, mae'n debyg.

Top

Aros

R'yn ni'n gadael y cwch ar y lan ac yn gwneud ein ffordd ar draws y tir; r'yn ni'n stryffaglo drwy'r isdyfiant am ychydig cyn cyrraedd llyn bach. Mae George yn troi ata' i ac yn sibrwd. Mae'n pwyntio at bentwr o foncyffion - lloches yr afanc; r'yn ni'n cwmanu ac yn symud yn ein blaenau mor dawel â phosibl. Mae George a Victor yn dod o hyd i fan lle y mae ganddyn nhw olygfa dda o'r llyn. Nawr, r'yn ni'n aros.

Mae'r oriau yn mynd heibio wrth i mi orwedd yn yr isdyfiant. Mae un neu ddau symudiad yn y dŵr yn dal sylw George, ond does dim byd yno heblaw'r gwynt. R'yn ni'n parhau i aros a dwi'n meddwl falle bod Minnie'n iawn i bryderu am effaith y datblygiadau ar natur. Dyw hi ddim yn ymddangos fel pe bai unrhyw afancod yma.

Wrth i'r golau ddechrau pylu mae George yn troi ata' i. Mae'n amser i ni adael. A chyda hynny, mae fy amser gyda'r Cree wedi dod i ben.

Top

Y Diwedd

Mae'n amser i mi ffarwelio â'r Cree a gadael y cyfandir hwn i ddychwelyd adref. Bydda' i'n drist i adael, ond ddim yn aml y gall rhywun ddweud ei bod nhw wedi gwireddu breuddwyd oes. Dwi wedi cael y fraint o dreulio amser gyda'r Indiaid y ces i fy nghyfareddu ganddyn nhw wrth wylio ffilmiau cowbois yn blentyn. Mae hi wedi bod yn daith wirioneddol epig ar draws cyfandir anhygoel. Ar y ffordd, dwi wedi cwrdd â chymeriadau lliwgar ac wedi cael profiadau na fyddwn i byth wedi dychmygu eu cael.

Lluniau

Y Diwedd

Fe fues i'n dyst i ysbrydolrwydd hynafol y Navajo a dysgais am ysbryd rhyfelgar y Cherokee a dyfodol y genedl. Fe fues i'n hela ac yn pysgota gyda'r Mi'kmaq, a dwi wedi gweld y gydberthynas unigryw sydd gan y Lakota a'r Blackfoot â natur.

Daeth y dyn gwyn â dinistr i'r tiroedd hyn ac i'w pobl frodorol, ond yn y byd modern maen nhw'n parhau i frwydro dros eu hiaith a'u diwylliant. Drwy hyn i gyd, dwi wedi dysgu i werthfawrogi'r hyn sydd gennym ni fel Cymry ac i fod yn falch fel cenedl o'n hiaith a'n diwylliant.

Dwi wedi teithio ar draws UDA a Chanada ar y daith hon, ac ar y rhan olaf hon o'r daith dwi wedi cwrdd â llwyth a all adrodd stori llwyddiant. Mae'r Cree wedi parhau'n deyrngar i'w cyndeidiau tra'n parhau i symud ymlaen i mewn i'r byd modern; mae ganddyn nhw ddiffeithwch prydferth a thref fodern. Os byddan nhw'n parhau ar y trywydd hwn, dwi'n siŵr y bydd dyfodol disglair o'u blaenau. Fy unig obaith yw bod yr un dyfodol yn bosibl i'r cymunedau brodorol eraill ar draws Gogledd America.

Top

© 2011 S4C
O Gymru / Made in Wales