Ar ôl hedfan i ddinas Halifax, prifddinas Nova Scotia, dwi'n teithio tua'r gogledd-ddwyrain i Ynys Cape Breton. Dwi ar fy ffordd i gwrdd â'r Mi'kmaq - nid y llwyth mwyaf adnabyddus yng Ngogledd America o bosibl - ond drwy fyw ar yr arfordir maen nhw'n cynrychioli ffordd o fyw a oedd yn cael ei harfer gan lawer o gymunedau brodorol.
Roedd y Mi'kmaq yn bysgotwyr ac yn helwyr-gasglwyr. Pobl led nomadig oedden nhw, yn mudo'n gyson rhwng pentrefi pysgota arfordirol yn yr haf a gwersylloedd mewndirol yn y gaeaf. Roedd y gwersylloedd hela a ddefnyddiai teuluoedd unigol yn y gaeaf yn wasgaredig, ond yn ystod y gwanwyn a'r haf roedd teuluoedd y Mi'kmaq yn ymuno â theuluoedd eraill i ffurfio pentrefi.
Y Mi'kmaq oedd un o'r llwythi cyntaf o Americaniaid Brodorol i gael cyswllt rheolaidd ag ymsefydlwyr Ewropeaidd. Gwnaed y cyswllt hysbys cyntaf ym 1497 gan y mordwywr a'r anturiaethwr John Cabot. Daeth y cyswllt rhwng y Mi'kmaq a'r Ewropeaid yn fwy rheolaidd wrth i gychod pysgota o Sbaen, Ffrainc a Phrydain deithio i'r ardal.
Yn ogystal â masnach, cyflwynodd yr Ewropeaid grefydd fodern, clefydau a rhyfela hefyd. Brwydrodd y Ffrancwyr a'r Prydeinwyr yn galed am diroedd traddodiadol y Mi'kmaq. Drwy fasnach a chrefydd daeth y Mi'kmaq yn un o gynghreiriaid y Ffrancwyr ac am ganrif buon nhw yng nghanol brwydr am oruchafiaeth rhwng Ffrainc a Phrydain yn y Taleithiau Arforol.
Wedi blynyddoedd o ymladd, cafodd y Ffrancwyr eu trechu gan y Prydeinwyr ac ar ddiwedd y 1700au llofnododd y Mi'kmaq a llwythi cyfagos eraill gytundebau â'r Prydeinwyr. A chyda hynny, gwelwyd cyfnod cymharol heddychlon yn y Taleithiau Arforol am y tro cyntaf ers degawdau.
Ar ddechrau'r 1940au, dechreuodd Adran Materion Indiaid Nova Scotia weithredu rhaglen ar gyfer canoli tiriogaeth frodorol y Mi'kmaq a oedd yn cynnwys adleoli cymunedau bach niferus y Mi'kmaq i ychydig o drefi mwy o faint.
Protestiodd gwrthwynebwyr y rhaglen yn erbyn dadwreiddio cymunedau sefydledig, gan gwestiynu effaith y cyfuniad gorfodol ar ddiwylliant y Mi'kmaq. Er hynny, symudwyd llawer o'r Mi'kmaq i Eskasoni, yn Cape Breton, a Shubenacadie, yng nghanol Nova Scotia.
Er gwaethaf yr addewidion o swyddi, tai da a gwell gwasanaethau meddygol a hamdden a wnaed i'r rhai a symudodd, roedd gorlenwi a diweithdra yn broblem yn y cymunedau canoledig. Erbyn y 1950au, roedd hi'n amlwg bod y polisi canoli wedi methu. Dechreuodd Cynghorau Lleol o Fandiau'r Mi'kmaq gymryd rheolaeth dros eu materion eu hunain a heddiw, mae 13 o diriogaethau Cenedl Gyntaf y Mi'kmaq yn nhalaith Nova Scotia.
Y cyrchfan cyntaf ar y daith hon yw un o'r trefi a welodd fewnlifiad o bobl yn ystod blynyddoedd y canoli, sef tiriogaeth frodorol y Mi'kmaq yn Eskasoni. Eskasoni, ar lannau Llyn Bras d'Or, yw cymuned fwyaf llwyth y Mi'kmaq. Mae pobl y Mi'kmaq wedi byw ar hyd glannau'r llyn hwn ers canrifoedd, ac wedi dibynnu'n fawr ar yr hyn y gallai ei ddarparu.
Dwi ar fy ffordd i gwrdd â Lawrence Paul, sef un o'r pysgotwyr mwyaf profiadol yn y gymuned yn ôl y sôn. Dwi'n troi oddi ar y brif ffordd i drac lludw, yn dilyn cyfarwyddiadau Lawrence ac yn chwilio am dŷ a chwch y tu allan iddo.
Dwi'n gweld cwch pysgota wrth ymyl tŷ gweddaidd yr olwg a dwi'n amlwg wedi cyrraedd cartref pysgotwr llwyddiannus iawn. Mae llinell o dryciau agored 4x4 newydd sbon gloyw wedi'u parcio o flaen y tŷ a fan hyn a fan draw mae cerbydau eira a beic modur Harley Davidson smart iawn.
Dwi'n sylwi bod grŵp o ddynion yn eistedd wrth ymyl y cwch ac wrth i mi ddod allan o'r car mae un ohonyn nhw'n cerdded tuag ata' i. Lawrence mae'n rhaid. Mae'n fy nghroesawu i Ganada. Y peth cyntaf sy'n fy nharo am Lawrence yw ei fod e'n siarad yn wych yn ei iaith ei hun, mae'n llawn bywyd, a chyn pen dim mae'n mynd â mi ar daith o amgylch ei gartref.
Mae'n mynd â mi i mewn i'w weithdy lle mae'n cadw ei holl offer hela a physgota ac yn egluro ei fod nid yn unig yn pysgota am ei fywoliaeth ond hefyd yn pysgota ac yn hela am fwyd. Yn y rhewgell, mae'n pwyntio at arth yr oedd wedi'i saethu ychydig ddiwrnodau yn ôl ac ar y waliau mae nifer o luniau ohono yn hela ac yn pysgota, gan gynnwys rhai ohono ar ei gwch pysgota crancod masnachol.
Yna, mae Lawrence yn fy nghyflwyno i'w frawd, sydd hefyd yn bysgotwr. Maen nhw'n egluro sut maen nhw wedi creu busnes proffidiol o bysgota masnachol, ac mai dyna sydd wedi talu am eu holl 'deganau' - y cerbydau 4x4 a'r cerbydau eira. Er eu bod yn gwneud llawer o arian o'r diwydiant hwn, pysgota ar ran eu cymuned maen nhw'n ei wneud, a gall y gymuned honno gymryd y gyfran fwyaf o unrhyw incwm.
Mae Lawrence yn fy ngwahodd i wersyll ei deulu ar lan llyn i weld sut mae pysgota a hela yn parhau i fod yn rhan bwysig o ffordd o fyw'r Mi'kmaq. Dwi'n trefnu i gwrdd â Lawrence a'i deulu yn y gwersyll ac, wrth ddilyn ei gyfarwyddiadau, dwi'n teithio drwy dirwedd sy'n fy atgoffa o gartref; coedwigoedd trwchus, bryniau tonnog, glannau creigiog a dolydd dan orchudd o niwl.
Dyw'r hydref ddim wedi cyrraedd eto ac mae llawer o'r dail yn dal yn wyrdd. Serch hynny, mae arwyddion bod y tymor yn newid gyda dail coch coed masarn Canada wedi'u dotio ar hyd y ffordd. Ar ôl gyrru drwy goetir trwchus ac ar hyd glannau llynnoedd, dwi'n cyrraedd gwersyll Lawrence.
Mae'r gwersyll ar lan Llyn Bras d'Or, sydd ar hyn o bryd o dan orchudd o niwl. Mae'r gwersyll ei hun yn cynnwys adeilad bach pren yn edrych dros y llyn, ac ychydig o adeiladau storio. Mae'r rhain yn llawn o offer hela, pysgota a maglu Lawrence ynghyd â dau gwch rhwyfo wyneb i waered ar lan y llyn.
Gyda brawd, ffrindiau a phlant Lawrence yn y gwersyll, dwi'n dechrau gweithio yn syth bin. Mae e' dal ychydig yn gynnar yn y flwyddyn ar gyfer rhai mathau o bysgota, ond mae Lawrence yn awyddus i daflu rhwyd i weld a oes pysgod yn y llyn. Gyda'r plant yn gwylio, mae Lawrence yn llusgo cwch bach i gyfeiriad y lan, dwi'n dringo i mewn ac mae'n dechrau gwthio'r ddau ohonon ni allan.
Wrth i Lawrence badlo ac yna baratoi'r rhwydi dwi'n ceisio gwagio'r dŵr sy'n dod i mewn i'r cwch yn andros o gyflym. Mae Lawrence yn taflu ychydig o flociau concrid i mewn i'r dŵr tywyll i bwyso'r rhwyd i lawr, ac r'yn ni'n rilio'r rhwyd allan dros ran fach o un o gilfachau a childraethau niferus y llyn.
Mae Lawrence yn esbonio y byddwn ni'n gadael y rhwyd dros nos ac yn dychwelyd ben bore i fwrw golwg arni. Efallai bod y cwch bach hwn yn colli dŵr ond mae'n amlwg bod hyn yn rhan bwysig o fywyd Lawrence, boed ar raddfa fach neu drwy ei waith fel pysgotwr masnachol.
Fore drannoeth, mae Lawrence a'i deulu yn codi'n gynnar, pawb ar wahân i un hogyn ifanc a oedd yn gyfrifol am gadw golwg ar y tân drwy'r nos, sy'n swatio o dan flanced. Mae'r nosweithiau yma ar arfordir gogledd-ddwyrain Canada yn eitha' oer ac, yn nes ymlaen yn y flwyddyn, bydd y llyn enfawr yn dechrau rhewi.
Am y tro, fodd bynnag, mae'r llyn yn rhydd o rew ac, i'r Mi'kmaq, mae'n dal yn ffynhonnell doreithiog o fwyd. Yn gynharach yn y bore, roedd un o frodyr Lawrence wedi cerdded i mewn i'r llyn i gasglu powlen o wystrys ac wrth i mi gyrraedd mae Lawrence eisoes wrthi'n eu hagor.
D'yn nhw ddim yn dod yn llawer mwy ffres na hyn ac mae Lawrence yn cynnig un i mi. Does dim llawer o flas arnyn nhw, ond gan fod rhai'n dweud eu bod nhw'n affrodisiad, pa ffordd well o ddechrau'r diwrnod - mae Lawrence yn gwenu ac yn dweud mai dyna'r rheswm pam fod ganddo gymaint o blant.
Ar ôl brecwast, r'yn ni'n llusgo'r cwch sy'n gollwng yn ôl i'r cildraeth lle gadawyd y rhwyd. Unwaith eto, mae Lawrence yn ein gwthio ni allan a dwi'n dechrau gwagio'r dŵr. Wrth i ni fwrw golwg ar y rhwyd, daw'n glir nad dyma'r amser gorau eto i bysgota gan mai dim ond un lleden fach r'yn ni wedi'i dal.
Dwi'n gofyn i Lawrence a oes unrhyw ffurf ar ysbrydolrwydd y Mi'kmaq sy'n gysylltiedig ag arferion pysgota; mae'n dweud wrtha' i ei bod hi'n arferol diolch i'r creawdwr am unrhyw fwyd a gynaeafir.
Yna, mae'n cymryd sigarét, yn tynnu'r tybaco, sylwedd sydd ag arwyddocâd ysbrydol i gymunedau Brodorol yng Ngogledd America, ac yn taenu'r tybaco dros y dŵr fel offrwm. Mae'n dweud ei fod e'n gofyn i'r creawdwr sicrhau, pan fydd e'n edrych ar ei rwyd y tro nesa', y bydd mwy o bysgod ynddi ac y bydd yn gallu rhoi bwyd i'w deulu.
Wrth i ni wneud ein ffordd yn ôl i'r lan, dwi'n meddwl a oes lle ar gyfer yr agwedd ysbrydol hon yn y diwydiant pysgota masnachol sydd wedi bod mor broffidiol i Lawrence a phobl y Mi'kmaq - galla' i ddim gweld sut y gall y ddau gyd-fodoli.
Hawliau, Cytundeb a Donald Marshal Jr.
Am flynyddoedd, mae hawliau pysgota a hela pobl y Mi'kmaq wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol brwd yng Nghanada. Mae'r Mi'kmaq yn honni bod eu hawl draddodiadol i hela a physgota wedi'i nodi'n swyddogol drwy gytundebau a lofnodwyd gyda'r Prydeinwyr yn y 18ed ganrif. Ond er gwaethaf hyn, mae unigolion Mi'kmaq wedi cael eu gwahardd a hyd yn oed eu cosbi am bysgota a hela. Cadarnhawyd hawliau'r Mi'kmaq yn y pen draw pan gafodd un o lwyth y Mi'kmaq, Donald Marshall Jr., ei arestio am bysgota llysywod. Fe enillodd e' ei achos yn y Goruchaf Lys yn 1999.
Gwaith Gorfodi Pysgodfeydd
Nawr bod hawliau pysgota'r Mi'kmaq yn glir, mae'n rhaid monitro'r diwydiant pysgota masnachol a physgota ar raddfa fach yn ofalus. Er mwyn dysgu sut y caiff pysgota yn yr ardal ei reoli, dwi wedi trefnu i gwrdd â dau o Swyddogion Gorfodi Pysgodfeydd y Mi'kmaq a gyflogir gan Lywodraeth Canada i fonitro a phlismona'r ardal leol.
Wrth gyrraedd marina lleol, dwi'n gweld cerbyd 4x4 â logos y llywodraeth arno. Wrth ymyl y cerbyd dwi'n gweld dyn sydd ymhell dros chwe throedfedd ac un arall sydd brin yn bum troedfedd - maen nhw'n ymddangos yn dipyn o dîm. Philip Prosper yw'r dyn tal a Tim Cremo yw'r llall, a dwi am ymuno â nhw wrth iddyn nhw fynd ar batrôl ar y llyn.
Ar ôl cyrraedd y dociau, dwi'n dringo ar fwrdd y cwch patrôl ac wrth i mi roi fy siaced achub ymlaen r'yn ni'n gyrru allan o'r marina. Mae Phil yn gwasgu'r sbardun ac mae dau fodur allanol yn dechrau rhuo. Mae pen blaen y cwch yn codi allan o'r dŵr a r'yn ni'n dechrau gyrru ar gyflymder ar draws dyfroedd dihalog y llyn.
Wrth i ni yrru ar draws y dyfroedd agored, dwi'n edrych ar y dirwedd anhygoel. Wrth ymyl glannau'r dŵr mae rhesi o goed, rhai yn wyrdd tywyll, eraill yn dangos arwyddion cyntaf yr hydref. Ar hyd y glannau, mae tai a gwersylloedd tebyg i wersyll Lawrence a'i deulu wedi'u dotio, ac mae hyn yn atgof o deuluoedd y Mi'kmaq a fu'n byw ar y glannau hyn ers canrifoedd.
Er bod y dyfroedd yn dal i fod yn ffynhonnell o fwyd i bobl y Mi'kmaq, maen nhw hefyd yn gartref i ddiwydiant arforol ffyniannus - nid dim ond pysgota, ond pysgotwyr crancod a chimychiaid hefyd. Gwaith Phil a Tim yw sicrhau bod y Mi'kmaq a physgotwyr anfrodorol yn glynu wrth y rheolau. Mae eu gwaith o ddydd i ddydd yn amrywio ond gall gynnwys popeth o ddelio â herwhelwyr i gynnal gwiriadau ar gychod pysgota. Heddiw, does dim cychod yn yr ardal ond r'yn ni'n mynd i fwrw golwg ar un neu ddau bot cimwch.
Tra r'yn ni'n mynd ar ein rownd, dwi'n siarad â Phil a Tim. Mae'n amlwg bod y diwydiant pysgota yn y rhan hon o'r byd yn fusnes mawr sy'n gallu cynhyrchu llawer o bysgod a llawer o arian. Nawr bod y Mi'kmaq yn ymwneud â'r diwydiant hwn, mae'n dal yn anodd gweld sut y gall y gwaith hwn gyd-fynd â'u credoau traddodiadol sy'n seiliedig ar gymryd yr hyn sydd ei angen yn unig.
Er mai pysgota, yn draddodiadol, oedd y brif ffordd o gasglu bwyd i'r Mi'kmaq yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf, byddai hyn wedi cael ei ategu yn ystod yr hydref a'r gaeaf gan hela a maglu. Gyda'r hydref yn prysur agosáu, dwi wedi trefnu i gwrdd â heliwr lleol a fydd, gobeithio, yn gallu dweud mwy wrtha' i am yr agwedd hon ar draddodiad y Mi'kmaq.
Mae hi tua phump o'r gloch y bore a dwi'n sefyll y tu allan i siop goffi yn aros am Danny Paul, un o helwyr traddodiadol olaf y Mi'kmaq, yn ôl y sôn.
Ar ôl ychydig, mae tri cherbyd 4x4 yn stopio wrth ymyl fy un i a daw dau ddyn allan o bob un wedi'u gwisgo mewn cymysgedd o ddillad oren llachar a chuddliw - maen nhw'n barod am ddiwrnod o hela. Mae Danny yn cyflwyno ei hun a'i ffrindiau ac ar ôl paned o goffi r'yn ni'n gyrru i ffwrdd mewn confoi cyn i'r haul godi.
Wrth i ni yrru ar hyd y briffordd a hithau'n dal yn nos r'yn ni'n stopio'n sydyn. O'n blaenau, dwi'n gweld cysgod yn croesi'r ffordd ac yn rhedeg i mewn i'r coed - elc, un mawr hefyd. Ond mae Danny a'r gweddill yn gadael yr un yma ac r'yn ni'n parhau ar ein ffordd. Y tro nesa' i ni stopio oedd i fynd ar fwrdd fferi i groesi afon - gyda'r llifoleuadau ar y dec mae gweld y fferi yn ymlwybro drwy'r dŵr tywyll llonydd yn olygfa eitha' iasol.
R'yn ni'n gadael y briffordd ac yn troi i gyfeiriad trac graean a fydd yn mynd â ni i fyny i ucheldiroedd Cape Breton. Wrth i ni stopio, mae'r haul yn dechrau codi. Mae Danny yn rhoi het a siaced oren llachar i mi. Efallai eu bod nhw'n edrych yn rhyfedd ond gallen nhw achub fy mywyd. Mae hon yn diriogaeth sy'n boblogaidd ymhlith helwyr ac mae'n bwysig bod helwyr yn gallu gweld ei gilydd tra eu bod nhw allan yn y goedwig.
Mae Danny yn esbonio ei fod e'n trefnu'r teithiau hela hyn i helpu i addysgu aelodau iau o'r Mi'kmaq am eu treftadaeth a sut i hela yn ôl traddodiadau'r Mi'kmaq. Mae'n ein galw ni ynghyd ac yn dechrau seremoni. Mae'n llosgi tybaco a saets mewn cragen ac yn chwifio'r mwg droson ni gyda phlu eryr. Mae hefyd yn rhoi bwyd a diod mewn darn o risgl bedwen fel offrwm.
Mae'n egluro ei bod yn bwysig iddo gynnal y seremoni hon a'i bod yn bwysig i aelodau iau o'r grŵp ddysgu sut i hela yn ôl eu credoau traddodiadol fel Mi'kmaq - hela am fwyd nid am hwyl, darparu ar gyfer nhw eu hunain a'u cymuned a rhoi diolch am yr hyn maen nhw'n ei gymryd.
R'yn ni'n symud ymlaen mewn confoi, gan ddringo hyd yn oed yn uwch. Yna, r'yn ni'n stopio. Dwi'n gweld un o'r dynion yn y tryc o'n blaenau yn pwyntio i'r dde. Dwi'n edrych i mewn i'r goeden ac yn gweld elc, tua 100 metr o'r ffordd. O fewn eiliadau, mae'r helwyr i gyd wedi dringo allan o'u tryciau gyda'u reifflau yn eu llaw, a dwi'n eu dilyn nhw.
Maen nhw'n symud i'w lle, ond cyn bod pawb yn barod mae un o'r helwyr ifanc yn saethu. Mae ergyd fyddarol yn atseinio drwy'r coed, ac mae'r un a ergydiodd yn nodi ei fod e' wedi'i fwrw, ond bod yr anifail wedi rhedeg i mewn i'r isdyfiant. Mae Danny a minnau yn mynd ar ei ôl.
Wrth i ni symud drwy'r coed daw ergyd uchel arall. Roedd Danny wedi gweld yr elc yn gorwedd yn yr isdyfiant, fe wnaeth e' saethu ato ond unwaith eto, fe redodd e' bant. Mae'n rhaid ei bod wedi cymryd oriau os nad diwrnodau i hela elc ar droed â dim ond bwa a saeth.
Wrth i ni symud ymlaen drwy'r llwyni trwchus r'yn ni'n clywed un neu ddau ergyd arall ac wedyn yr alwad - maen nhw wedi'i ddal. Gan barhau i ddilyn yn agos y tu ôl i Danny, r'yn ni'n dod ar draws yr elc yn gorwedd yn llonydd yn yr isdyfiant. Ar ôl procio'r anifail i wneud yn siŵr ei fod wedi marw, mae'r dynion eraill yn cyrraedd. Tarw ifanc yw hwn, ond mae'n dal yn anifail mawreddog.
Dwi'n deall bod hyn yn rhan fawr o ffordd o fyw draddodiadol y Mi'kmaq a'i bod e'n rhan o'u cydberthynas â byd natur. Ond i mi, mae wastad yn anodd gweld anifail gwyllt yn cael ei ladd. Er hynny, dyw Danny ddim yn gwastraffu amser. Mae'n taenu tybaco dros yr elc, yn adrodd gweddi ac yn rhoi diolch. Mae'r gweddill yn gwylio'n ofalus. Er eu bod nhw'n falch o fod wedi lladd yr anifail, mae awyrgylch prudd ymhlith y grŵp.
Yn eu tro, mae pob aelod o'r grŵp yn chwythu mwg tybaco i mewn i ffroenau'r elc; mae hyn yn arwydd o barch tuag at yr anifail a chredir ei bod yn helpu ei ysbryd i ymadael. Gyda hynny, maen nhw'n tynnu'r elc allan i'r ffordd.
Er bod yr anifail wedi'i ladd, mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Mae'n rhaid iddyn nhw ddiberfeddu'r elc yn barod iddo gael ei fwtsiera yn nes ymlaen. Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Evan, aelod ifancaf y grŵp sydd ond yn ei arddegau. Nid yw'n barod i ladd elc eto, ond dyma'r tro cyntaf iddo ddiberfeddu un. Mae hwn yn gam pwysig yn ei wybodaeth am draddodiad y Mi'kmaq. Gyda Danny a'r gweddill yn gwylio ac yn cynghori Evan bob cam o'r ffordd, mae'n cael ei arwain drwy'r broses.
Yn y cyfamser, mae Danny yn egluro mai dim ond pen yr elc y bydd helwyr anfrodorol yn ei gymryd fel troffi, gan adael gweddill y carcas i bydru. Mae'r Mi'kmaq, ar y llaw arall, yn sicrhau bod popeth yn cael ei ddefnyddio. Caiff hyd yn oed y perfedd eu gadael i fwydo'r eryr a'r brain a fydd yn dechrau troelli uwchben yn fuan.
Mae Danny yn dweud ei fod e'n tristáu wrth feddwl am anifail yn cael ei adael yn y fath fodd. Mae'n dweud nad yw'r sawl sy'n gwneud hynny yn helwyr nac yn ddarparwyr - maen nhw'n llofruddwyr. Mae sicrhau bod ffyrdd y Mi'kmaq yn cael eu dilyn a'u trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf o helwyr yn amlwg yn rhywbeth y mae Danny yn teimlo'n angerddol yn ei gylch.
Ar gyfer rhan olaf fy nhaith, dwi wedi trefnu i gwrdd â Lawrence Paul unwaith eto i weld y diwydiant pysgota dwi wedi clywed cymaint amdano. Dwi wedi teithio i Borthladd Pubnico, tref bysgota Ganadaidd-Ffrengig ar ben deheuol Nova Scotia.
Mae hwn yn borthladd pysgota prysur â channoedd o longau wedi'u hangori yn yr harbwr, gan gynnwys prif long fflyd bysgota'r Eskasoni, y dreill-long The Chief Blair Francis. Mae'n hwyr yn y prynhawn ac wrth i mi agosáu at yr angorfa dwi'n gweld bod Lawrence wedi parcio ar y doc wrth ymyl y llong. Mae'n dweud wrtha' i ei fod e'n edrych ymlaen at fynd allan ar y môr; mae rhywbeth yn dweud wrtha' i ei fod e'n fwy cysurus o bosibl ar gwch nag ydyw ar dir sych.
Mae criw'r llong yn brysur yn paratoi'r llong am bedwar diwrnod ar y môr. Yn ystod yr amser hwnnw, byddan nhw'n gweithio ddydd a nos. Mae'r cyflenwadau eisoes ar fwrdd y llong, ac mae'r criw yn mynd ati i lwytho rhwydi ac offer eraill. Wrth i ni aros i weddill y criw gyrraedd, mae'n dechrau nosi ac mae Lawrence yn mynd â mi ar daith gyflym o gwmpas y llong. Mae'n amlwg yn llong fodern - newid mawr o gwch rhidyllog Lawrence ar y llyn.
Gyda gweddill y criw wedi cyrraedd, r'yn ni'n llwytho'u hoffer a'u siwtiau goroesi, sydd wedi'u cynllunio i gadw pobl yn fyw os byddan nhw'n disgyn i mewn i ddyfroedd oer gogledd Cefnfor yr Iwerydd. Dwi'n gobeithio na fydd angen un o'r rhain arna' i. Mae injans y llong yn cael eu tanio ac mae'r llinellau yn cael eu rhyddhau; r'yn ni'n dechrau symud yn araf i ffwrdd oddi wrth wal yr harbwr.
Mae'n noson glir ac mae'r haul wedi machlud ers tipyn. Wrth i ni adael yr harbwr mae'r olygfa wedi'i goleuo gan leuad oren a llifoleuadau'r llong. Gyda thwrw'r moduron islaw, mae Lawrence yn egluro ei fod e' wastad yn cyffroi pan fydd yn teithio allan i'r môr - efallai ei fod e'n cyrraedd oedran ymddeol i'r rhan fwyaf ohonon ni ond dwi ddim yn credu y bydd e'n rhoi'r gorau i hyn ar frys.
Gyda dim byd ond cefnfor du gwag i bob cyfeiriad, bydd yn rhaid i mi a'r criw ffilmio fynd ar gwch cymorth am weddill y noson gan nad oes digon o welyau bync i bawb. Yn y bore, r'yn ni'n bwriadu dringo yn ôl ar fwrdd y llong i ymuno â Lawrence a'r lleill wrth iddyn nhw ddechrau'r diwrnod cyntaf o bysgota am gorbenfreision.
Mae'n ymddangos fel pe bai grymoedd natur yn cynllwynio yn ein herbyn. Wrth i mi ddringo i fyny o'r dec islaw galla' i ddweud nad yw'r môr mor llonydd ag yr oedd y rhagolygon tywydd wedi'i awgrymu. Mae'r cwch yn troi o ochr i ochr. Uwchlaw'r dec, mae ein capten yn egluro bod ymchwydd mawr wedi codi dros nos ac mae'r môr yn edrych yn eitha' garw.
Dyw hyn ddim yn broblem i'r pysgotwyr sydd eisoes yn paratoi ar gyfer rhwyd gyntaf y dydd. Mae'n mynd i wneud y broses o drosglwyddo'n ôl i'r dreill-long yn anodd iawn i ni, ond mae capteniaid y ddwy long yn rhoi caniatâd i ni roi cynnig arni.
Maen nhw'n dod â'r llongau ochr yn ochr â'i gilydd ac mae criw'r dreill-long yn taflu ychydig o raffau draw. Galla' i glywed capten ein cwch cymorth yn siarad pymtheg i'r dwsin â chapten y dreill-long. Yna, mae'n troi o gwmpas ac yn rhoi gorchmynion i griw'r dreill-long.
R'yn ni o fewn ychydig fetrau i'r dreill-long ac mae'n symud i fyny ac i lawr. Mae'r dec yn codi sawl metr uwchlaw ein cwch ni, ond os gallwn ni glymu'r rhaffau r'yn ni wedi cael cyfarwyddyd i gamu o un cwch i'r llall heb oedi.
Mae'r decmon ar ein cwch ni yn clymu un rhaff. Wrth i'r dreill-long godi unwaith eto mae'r rhaff yn cael ei thynnu'n dynn ac yna mae'n torri'n rhydd. R'yn ni gyd yn sefyll yn ôl. Gyda'r rhaff ynghlwm unwaith eto, r'yn ni ochr yn ochr â'r dreill-long. Mae'r criw yn aros i ni gamu ar draws a dwi'n mynd amdani - mae'r capten yn gweiddi na, na, na! Dwi'n rhewi ac yn symud yn ôl o ochr y cwch. Dyw'r capten ddim yn meddwl ei bod hi'n ddigon diogel i ni groesi.
R'yn ni'n symud i ffwrdd oddi wrth y dreill-long; dyw'r môr ddim ar ein hochr ni heddiw. Mae Lawrence yn chwifio arnon ni ac mae criw'r dreill-long yn diflannu o'r dec i ddechrau paratoi ar gyfer rhwyd gyntaf y dydd.
Mae amser yn arian yn y busnes hwn a dyw capten y dreill-long ddim yn gwastraffu unrhyw amser yn taflu ei rwydi. R'yn ni'n gweld y rhwydi'n cael eu harllwys o gefn y dreill-long. Bydd y rhwyd yn cael ei llusgo ar hyd gwaelod y cefnfor gan ddal popeth yn ei ffordd. Er bod y rhwydi hyn wedi'u cynllunio i ddal pysgod o faint penodol yn unig, mae'n broses eitha' anwahaniaethol.
Wrth i ni aros am y dreillrwyd gyntaf o bysgod i ymddangos, dwi'n meddwl am ba mor gynaliadwy yw'r diwydiant hwn, nid dim ond fan hyn ond ar draws y byd. Gyda miliynau o bysgod yn cael eu cymryd o'r moroedd bob blwyddyn, mae pryderon byd-eang ynghylch gorbysgota. Dwi'n gwybod bod llawer o amser yn cael ei dreulio a llawer o ymdrech yn cael ei wneud i fonitro stociau pysgod, a bod pysgodfeydd masnachol yn glynu wrth gwotâu llym, ond galla' i ond meddwl, os byddwn ni'n parhau i bysgota ar y lefel hon na fydd unrhyw bysgod ar ôl yn y môr o fewn oes fy mhlant.
Wrth i'r dreillrwyd gyntaf ymddangos o waelod y cefnfor, galla' i weld ei bod hi'n orlawn. Ddwedwn i fod sawl tunnell o bysgod gwerth miloedd o ddoleri ynddi. Dwi ddim yn credu y gall y diwydiant hwn gyd-fynd â'r hen ffyrdd - ffyrdd traddodiadol y Mi'kmaq. Ro'n nhw arfer hela a physgota i oroesi, ond mae a wnelo hyn â dal cymaint o bysgod â phosibl a gwneud cymaint o arian â phosibl.
Gydag un ddalfa ar fwrdd y llong a'r dreillrwyd wedi'i thaflu ymaith eto, mae'r môr wedi gostegu. Ond mae'r niwl wedi disgyn a phenderfynnir dod â Lawrence nôl ar fwrdd ein cwch ni a dychwelyd i'r porthladd. Yn ffodus i ni, roedd llong pysgota cylfgregyn â safle lansio bach yn yr ardal, a chawson ni help ganddyn nhw i ddod â Lawrence oddi ar y dreill-long ac yn ôl ar ein cwch ni.
Yn y diwedd, mae Lawrence yn dringo yn ôl ar fwrdd y cwch. Mae'r dreill-long yn dal wrthi'n pysgota wrth i ni wneud ein ffordd yn ôl i'r porthladd. Wrth iddi ddiflannu ynghanol y niwl dwi'n siarad â Lawrence am y diwydiant pysgota masnachol. Mae'n dweud ei fod e'n pysgota am fwyd gartref, ond allan fan hyn, gwneud arian sy'n bwysig. Ond ei fywoliaeth e' ydyw ac mae'n caniatáu iddo ddarparu ar gyfer ei deulu a'i gymuned. Er mod i'n pryderu am effeithiau amgylcheddol y diwydiant hwn, dwi'n ei chael hi'n anodd dadlau â dyn sydd am weld ei bobl yn cael y gorau.
Wrth i ni ddychwelyd i'r porthladd, mae'r niwl yn drwm yn yr awyr ac mae wedi gorchuddio'r tir yn ogystal â'r môr. Do'n i ddim yn gwybod unrhyw beth am y Mi'kmaq cyn dod yma, ond dwi wedi dysgu llawer a nawr mae fy amser ar arfordir Cefnfor yr Iwerydd wedi dod i ben. Mae Lawrence a'r bobl eraill dwi wedi cwrdd â nhw ar hyd y ffordd wedi rhoi croeso cynnes iawn i mi ac mae'n amlwg eu bod nhw'n genedl sy'n teimlo'n angerddol am eu treftadaeth.
Mae'r Mi'kmaq wedi symud ymlaen i mewn i'r byd modern drwy eu mentrau pysgota masnachol ac mae rhai ohonyn nhw wedi dod yn llwyddiannus iawn. Er bod hyn wedi helpu i ddarparu adnodd gwerthfawr ar gyfer y cymunedau, dwi'n pryderu eu bod nhw wedi colli rhywfaint o gysylltiad â'u ffyrdd traddodiadol. Mae'n anodd cael cydbwysedd a bydd yn rhaid aros i weld a fydd y Mi'kmaq yn gallu cynnal eu traddodiadau a pharhau i ddatblygu yn y byd masnachol.