Ffeithiau am Rwsia
Mae cyfres Iolo yn Rwsia yn rhoi cipolwg arbennig i ni ar un o wledydd mwyaf o ran maint a lleiaf cyfarwydd ei thirwedd yn y byd. Bydd Iolo'n ymweld ag ardaloedd amrywiol a hudol, o'r gorllewin i'r dwyrain pell. Cawn weld rhyfeddodau byd natur Rwsia yn eu holl ogoniant trwy gydol y flwyddyn. Dyma ddetholiad o ffeithiau am y tir estron hwn a'i fywyd gwyllt.
Llyn Baikal yn Siberia ydy'r llyn dyfnaf yn y byd, dros 1600m o ddyfnder. Y llyn ydy cartref yr unig forlo dŵr croyw yn y byd. Mae morloi Baikal magu eu bychain ar ddiwedd y gaeaf.- Mae mynyddoedd Altai yn ne Siberia, yn agos at ffiniau Mongolia a Kazakstan.
- Mae Mynyddoedd Cawcasws yn cysylltu Ewrop ac Asia. Mae copa uchaf y gadwyn arw hon ymhell dros 5000. Mae rhannau gorllewinol Mynyddoedd Cawcasws yn wlyb ac yn las iawn, tra bod y dwyrain yn ddiffaith a garw.
Mae iâ yn gorchuddio arwynebedd eang o Fynyddoedd Cawcasws. Yma dewch chi o hyd i rai o rewlifoedd mwyaf Ewrop. Mynydd Elbrus ydy'r mynydd uchaf yn y Cawcasws. Mae ei dda gopa uchaf dros 5600m o uchder.- Mae fforestydd Mynyddoedd Cawcasws yn gartref i reibiwr sydd wedi mynd yn brin mewn rhanbarthau eraill – y lyncs.
- Bu'r garan fursen (Demoiselle crane) unwaith yn symbol o statws i dywysogion maharaja a Pharoaid. Heddiw mae'r adar prydferth yma'n brin mewn llawer o lefydd.
Gafr fynydd ydy'r afr Cawcasws, ac mae’n byw ar ucheldir hyd at 4000m.- Yn nwyrain pell Rwsia, mae'r tirfas mwyaf yn y byd yn cyrraedd y Môr Tawel ar arfordir Tir Ussuri, lle mae fforestydd Siberia'n troi'n arfordir Asiaidd egsotig.
Mae eirth Asiaidd duon yn ddringwyr da, ac maen nhw'n treulio llawer o'u hamser ar frig y coed.- Yn Nhir Ussuri, mae ceirw sika'n byw yn y fforestydd, a hefyd ar y traeth, lle maen nhw'n bwyta algâu.
- Mae tylluanod pysgod Blakiston yn brin dros ben – dim ond tua 1000 o adar sy'n dal i fodoli yn y tir gwyllt. Mae afonydd Tir Ussuri'n gynefin addas iddyn nhw.
Llyn Chanka, sy'n agos at y ffin gyda China a Korea, ydy cynefin mwyaf y blodyn lotws. Dim ond am 4 mis yn flwyddyn mae'r tywydd yn addas iddo flodeuo. Mae Llyn Chanka hefyd yn gartref i Grwban y Môr Cragen Feddal.- Mae Teigr Siberia'n un o'r rheibwyr mwyaf prin yn y byd. Maen nhw dan fygythiad oherwydd hela anghyfreithlon a diffyg cynefin.
- Yn 1730, daeth Mynyddoedd Wral yn rhan swyddogol o'r ffin rhwng Ewrop ac Asia.
- Mae eirth brown i'w gweld yn aml yn Wral. Maen nhw'n bwyta popeth - yn ogystal â chig a physgod, maen nhw'n bwyta ffrwythau, planhigion a mêl.
Mae penrhyn Kamchatka'n estyn dros 1200km i mewn i'r Môr Tawel. Mae Kamchatka'n fyd o rew a thân – mae rhewlifoedd anferth yn byw drws nesa i losgfynyddoedd.- Cafodd rhan fawr o gwm pistyllion poethion Kamchatka eu dinistrio mewn llithr fwd, ond mae ffynhonnau poethion a thyllau mwd yn dal i fodoli mewn nifer o fannau. Mae Kamchatka'n un o'r ardaloedd â'r symudiadau folcanig mwyaf prysur ar wyneb y ddaear.
- Mae Eryr Fôr Stellar yn gawr yn yr awyr. Mae ei adenydd dros ddau fetr o hyd, ac mae ei big anferth yn nodweddiadol o aderyn ysglyfaethus. Yr Eryr ydy aderyn ysglyfaethus fwyaf dwyrain pell Rwsia.
Mae geweion (wolverines) yn un o'r anifeiliaid mwyaf anodd i ddod o hyd iddyn nhw. Un man y gallwch chi eu gweld ydy ar benrhyn Kamchatka.- Mae Llyn Kuril, yn ne Kamchatka, wedi ei leoli yng nghôl llosgfynydd hynafol Mae'n un o'r llefydd gorau i weld eirth yn hela samwn.