Iolo Williams, Cyflwynydd
- Mae Iolo Williams yn un o gyflwynwyr mwyaf cyfarwydd S4C. Wedi gwneud gradd mewn Ecoleg, dechreuodd weithio gyda'r RSPB yn 1985. Symudodd i radio a theledu yn sgil y swydd honno, ac mae e wedi cyflwyno cyfresi i ar S4C a'r BBC yn rheolaidd ers hynny. Mae'n arbenigwr heb ei ail.
- Mae Iolo a'i deulu'n ail-gylchu ac yn ailddefnyddio popeth allan nhw. Er bod Iolo'n poeni am ei ôl troed carbon yn sgil teithio gymaint gyda'i waith, mae'r ymgyrchu mae e'n ei wneud ar ran bywyd gwyllt a'i gynefin yn rhyw fath o 'offset' i hynny.
- Hoff beth Iolo i'w wneud yn ei amser sbâr prin ydy ymarfer corff - chwarae pêl-droed neu rygbi, cerdded yn Mynyddoedd y Berwyn, a pharagleidio gyda'i fab hynaf.
- Dydy Iolo ddim yn un am fwytai crand na gwin drud – cyrri a pheint gyda'r bois yw ei syniad e o noson dda.
- Mae Iolo'n briod a dau o blant a dau gi. Mae'r teulu'n byw yn ardal Llanwddyn, lle cafodd Iolo ei eni a'i fagu, er iddo fyw yn Sir Benfro hefyd pan oedd e'n blentyn.