Yn Kansas City a Harlem y cychwynodd Swing, yno hefyd yn y 1930au cynnar cafwyd gwrthdaro yn erbyn yr hyn a ystyriwyd yn elfennau caeth Swing gyda'r pwyslais ar wyddor seiniau. Datblygodd ffasiwn oedd yn dwyn yr enw, Bebop, yna Rebop, ac yn olaf Bop. Rhoddwyd y pwyslais ar strwythur rhythmig cymhleth gyda'r ffocws ar ganu harmonig yn hytrach na melodig yn nodweddiadol o Bop. Roedd yn gerddoriaeth oedd yn rhoi mwy o sylw i natur a chymhlethdod y sain nag oedd i'r alaw. Charlie Parker, Dizzy Gillespie, Thelonius Monk, Kenny Clarke a Charlie Christian oedd yr arbenigwyr yn y maes newydd hwn a ddaeth yn sail i'r jazz fodern. Dau gerddor, Lester Young (sacsoffôn) a Jo Jones (drymiau) oedd yn bennaf gyfrifol am ddylanwadu ac effeithio cyfeiriad a thwf harmonig a rhythmig Bop.
Wedi ei gymryd o'r Columbia Electronic Encyclopaedia © 2005 Columbia University
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales