Neidio at y cynnwys

S4C

HSBC Jazz Aberhonddu 2008 - Beth yw Jazz?

Blues

Blues

Dyma ddull deuddeg bar o gerddoriaeth wedi ei selio yn y dull tonaidd gan gynnwys cordiau llywydd ac is-lywydd gyda'r feddalnod ar y trydydd a'r seithfed nodyn. Rhain yw'r blue-notes. Ceir gosodiad cerddorol yn y pedwar bar agoriadol sy'n cael ei ail-adrodd (weithiau gyda amrywiad bychan) yn ystod y pedwar bar sy'n dilyn. Yna fe atebir y cyfan yn y pedwar bar olaf. Cyflwr stad y natur ddynol sydd dan sylw mewn caneuon blues, yn amlach na pheidio maent yn ymwneud â phroblemau carwriaethol, rhyw, tlodi a marwolaeth. Mae'r tempo yn amrywiol a gall naws y canu ymestyn o anobaith llwyr i ddirmyg a dychan.

Tra'n seilio ei ganu ar draddodiad y blues, cynyddodd W.C. Handy ei boblogrwydd personol yn ogystal ag apêl y traddodiad. Mae'r canlynol hefyd wedi gwneud cyfraniad enfawr at boblogrwydd Blues: Blind Bill Jefferson, Leadbelly, Lightnin' Sam Hopkins, Robert Johnson, Gertrude (Ma) Rainey, Bertha (Chippie) Hill, Bessie Smith, Billie Holiday, Dinah Washington, a Muddy Waters.

Wedi ei gymryd o'r Columbia Electronic Encyclopaedia © 2005 Columbia University

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales