Neidio at y cynnwys

S4C

HSBC Jazz Aberhonddu 2008 - Beth yw Jazz?

Cool Jazz

Scott Hamilton

Arddull hunanfeddiannol a chryno sydd i'w gael yn Cool Jazz, a gychwynnodd yn Efrog Newydd yn y 1940au a'r 1950au. Natur ddwys ond hefyd eironig ac esmwyth ei ddatblygiad a geir yn y dilyniant tonaidd, hyn yw prif nodwedd y math yma o ganu jazz. Drwy'r cyfan mae'r trywydd melodaidd yn eglur, yn symlach a mwy soniarus nac yn Bop. Arddull Lester Young oedd sail ymdrechion y "cool saxophonists" sef Lee Konitz, Wayne Marsh, a Stan Getz. Yn y dyddiau cynnar chwaraeodd Miles Davis rhan bwysig yn natblygiad Cool Jazz yn ogystal a phianyddion enwog fel Lennie Tristano a Bill Evans. Fe ymgymerodd y gynulleidfa yn barotach â'r arddull hwn o ganu nag oeddent wedi gwneud â Bop. Dave Brubeck ddatblygodd i fod yn ddatgeinydd mwyaf blaengar Cool Jazz.

Wedi ei gymryd o'r Columbia Electronic Encyclopaedia © 2005 Columbia University

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales