Yn ail hanner y 1950au, roedd tri math o jazz cyfoes yn bodoli. Y cyntaf oedd modern jazz, sef idiom a dyfodd wedi'r Ail Rhyfel Byd. Gelwir y math yma yn "mainstream". Bandiau Gerry Mulligan oedd yn flaenaf wrth chwarae yn y modd hwn. Yn ail, dechreuwyd defnyddio offerynnau a oedd i bob pwrpas hyd yma yn estron ac anghyfarwydd yn y byd jazz; offerynnau fel ffliwt, yr obo, y flügelhorn a'r sacsoffôn soprano. Yn sgil hyn daeth lleisiau offerynnol newydd i drwytho jazz. Yna daeth yr avant-garde neu free-jazz gyda datgeinwyr tebyg i John Coltrane, Ornette Coleman, Eric Dolphy, Pharaoh Sanders, Archie Schepp, Cecil Taylor a Rahsaan Roland Kirk yn arwain y ffordd wrth arloesi o'r newydd ym myd cynganeddion sain a pherthnasedd rhythmig.
Tua diwedd y 1960au, ymgymerodd cerddorion fel Miles Davis, Wayne Shorter, Larry Coryell, Gary Burton, Keith Jarrett a Chik Corea i archwilio'r berthynas rhwng roc a jazz mewn arddull a elwir yn fusion. Yn sgil datblygiadau sydyn y 1960au a'r 1970au roedd jazz yn ymddangos yn aflunaidd, braidd yn ddi-gyfeiriad gyda cherddorion yn gyndyn i beidio dilyn hen gyfarwyddiadau. Erbyn y 1990au blagurodd steil a adnabyddir fel acid jazz, sef ffurf gyfansawdd sy'n defnyddio ffurfiau traddodiadol ynhŷd â soul a funk, rhythmau Lladinaidd ynghŷd â rhythmau hip-hop.
Ymhlith artistiaid mwyaf blaenllaw y 1980au, y 1990au a dechrau'r 2000au ymlaen gellir cynnwys Wynton Branford Marsalis, Terry Blanchard, David Murray, John Carter, Henry Threadgill, Cyrus Chestnut a Joshua Redman. Ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif gan feddwl bod ymadroddion jazz Americanaidd wedi pylu, aeth cerddorion o Sgandinafia a Ffrainc ati i greu genre newydd a elwir “the European”. Wrth ddychwelyd i wreiddiau jazz a cherddoriaeth dawns llwyddwyd i uno elfennau Europeaidd, sef house, techno, drum, Bass a jungle ynghŷd ag acoustic ac electronic.
Drwy'r cyfan ceisiant wyrdroi sain i fod yn gyfrwng poblogaidd eto gan apelio yn uniongyrchol at y rhai a garai jazz. Ymhlith y cerddorion cyfoes sydd yn ymwneud â hynny mae'r pianydd o Norwy, Bugge Wesseltoft a'r trwmpedwr Nils Petter Molvaer, y pianydd Laurent de Wilde a'r chwaraewr sacsoffon Julien Laurau, y ddau o Ffrainc, y chwaraewr ffliwt Malik Mezzadri, Esbjorn Svensson Trio o Sweden, ac o Ffrainc eto Ludovic Navarre a grwpiau St. Germain.
Wedi ei gymryd o'r Columbia Electronic Encyclopaedia © 2005 Columbia University
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales