Mae'r canu o New Orleans a adnabyddir fel Dixieland Jazz yn cael ei briodoli i fandiau bychain sy'n cynnwys trymped, clarinét, a thrombôn tra bod rhythm y chwarae yn cael ei gynnig gan y bas, y drymiau, gitâr a phiano. Wrth orymdeithio – yn ôl yr arfer yn y cychwyn - wrth rheswm, byddai'r piano a'r bâs yn cael eu hepgor a byddai tiwba yn cael ei ddefnyddio yn eu lle. Gyda chymhlethdod y sain, rhythmau amrywiol, acenion, goslef a brawddegu, ynghŷd â vibrato a glissando cafwyd cyfanwaith oedd ar unwaith yn gynnes a phersonol iawn i'r perfformwyr a'r gwrandawyr. Byddai naws y gerddoriaeth yn amrywio yn ôl yr angen a'r galw, o arddull galarnad weithiau i ganu afiaethus y Mardi Gras dro arall.
Yn New Orleans, Buddy Bolden arloesodd y ffordd yn 1890au gyda'i fand o offerynwyr tywyll eu croen. Yna aeth "The Original Dixieland Jazz Band" a'r "New Orleans Rhythm Kings" ymlaen i gyflwyno jazz yn llwyddiannus i daleithiau gogleddol America. Wedi cau ardal Storyville yn New Orleans ym 1917, llifodd llawer o gerddorion jazz allan o'r ddinas i gyfeiriad Chicago lle ffynnodd steil New Orleans ym mandiau King Oliver, ac wedyn yng ngherddoriaeth Louis Armstrong, Jelly Roll Morton a Johnny Dodds.
Tua'r amser hyn hefyd cychwynnodd Fate Marable drefnu riverboat jam sessions hynod boblogaidd gydag offerynwyr disglair yn ymddangos ar y llongau oedd yn hwylio ar hyd afon fawr y Mississippi. Yn fuan datblygodd amrywiol steiliau Dixie mewn dinasoedd eraill. Erbyn hyn roedd cerddorion iau yn arfer y ffasiwn newydd o acenni syml yn hytrach na cherddoriaeth New Orleans a oedd yn dibynnu ar wrthbwynt am effaith. Yn y cyfnod yma daeth Bix Beiderbeck - cerddor amlwg a dylanwadol o Chicago – i'r amlwg wrth iddo ddatblygu modd ychydig yn wahanol eto oedd yn dibynnu tro hwn ar seiniau mwy cymhleth a oedd hefyd yn fwy melodaidd. Lledodd Jazz i ddinasoedd Kansas, Los Angeles ac Efrog Newydd.
Wedi ei gymryd o'r Columbia Electronic Encyclopaedia © 2005 Columbia University
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales