Mae rhai yn honni bod modd olrhain hanes Gospel Jazz yn ôl cyn belled â tharddiad gwreiddiol jazz. Honnir bod hanes y ddau arddull yn tarddu o ganu efengylaidd y caethweision Affricanaidd. Unwyd y ddwy ddull yn y 1930au yng nghyfnod Thomas Dorsey a Mahalia Jackson. Yn y cychwyn roedd gwrthwynebiad i'r modd newydd yma o ganu ond yn y man fe'i dderbyniwyd fel modd teilwng i uno moliant a cherdd. O dipyn i beth fe adnabuwyd Tommy Dorsey fel "The Father of Gospel Music". Erbyn 1970au daeth Andre Crouch i uno R&B gyda Chanu Efengylaidd.
Wedi ei gymryd o'r Columbia Electronic Encyclopaedia © 2005 Columbia University
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales