Neidio at y cynnwys

S4C

HSBC Jazz Aberhonddu 2008 - Beth yw Jazz?

Neo-Bop

Digby Fairweather

Erbyn canol y 1950au, daeth ffurfiau jazz newydd eto. Y tro hwn neo-bop neu hard-bop a ddechreuodd ar arfordir Dwyreiniol yr Unol Daleithiau. Gyda phobl fel John Coltrane, Sonny Rollins, Cannonball Adderley, Horace Silver a Max Roach yn eu tro yn arwain grwpiau bychain a aeth ymlaen i gynhyrchu seiniau a oedd yn ffrwydrol a ffyrnig, yn angerddol a digyfaddawd. Tua'r un adeg fe ddaeth nifer o berfformwyr i'r amlwg oedd hefyd yn gyfansoddwyr. Yn eu plith roedd pobl fel Gunther Schiller a John Lewis o'r Modern Jazz Quartet, a ddatblygodd y math o ganu a adnabyddir fel "third- stream jazz" sef cyfuniad o ffurfiau cerddorol clasurol ynghŷd â jazz cydnabyddedig. Mae uno llwyddiannus wedi deillio hefyd wrth briodi jazz a ffurfiau Afro-Lladin fel yng ngherddoriaeth Candido, Machito, Eddie Palmieri a Mongo Santamaria.

Wedi ei gymryd o'r Columbia Electronic Encyclopaedia © 2005 Columbia University

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales