Ragtime oedd y ffurf gynharaf ar jazz i apelio'n eang. Mae'n cynnwys seiniau piano'n chwarae nodau croes-acenog mewn rhythmau amrywiol. Scott Joplin ac Irving Berlin oedd prif gyfansoddwyr a pherfformwyr Ragtime. O 1893 hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf poblogeiddiwyd Ragtime drwy gyhoeddi'r gerddoriaeth ar bapur a'i osod hefyd ar ddyfais y cyfnod, sef y player-piano rolls.
Yn gynnar yn 70au'r ugeinfed ganrif cafwyd adfywiad ym mhoblogrwydd Ragtime ac fe ddaeth gweithiau Scott Joplin yn arbennig boblogaidd eto.
Wedi ei gymryd o'r Columbia Electronic Encyclopaedia © 2005 Columbia University
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales