Kansas City a Harlem yn yr 1920au hwyr oedd y dinasoedd lle ymddangosodd Swing am y tro cyntaf. Datblygodd wedyn i fod yn boblogaidd trwy'r Unol Daleithiau. Nodweddion yr arddull oedd fod y rhythm y tro hwn yn disgyn rhwng y trawiadau. 'Roedd cymaint â phymtheg o offerynwyr yn y bandiau mawr gyda'r adnoddau i greu sain arswydus o fawr a hefyd, pan bo'r angen, i ganu seiniau tyner, cynnil a chraff. Bandiau Duke Ellington a Count Basie oedd gyda'r gorau yn yr idiom hon. Hefyd 'roedd bandiau Fletcher Henderson, Jimmy Lunceford, Benny Goodman, Artie Shaw, Glen Miller, Tommy Dorsey a Harry James yn flaenllaw. Yn amlach na pheidio byddai'r gerddoriaeth yn cael drefnu er mwyn amlygu doniau a chrefft unawdwyr o blith y band.
Wedi ei gymryd o'r Columbia Electronic Encyclopaedia © 2005 Columbia University
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales