Burum yw un o'r grwpiau mwyaf cyffrous i ymddangos ar y sîn jazz yng Nghymru yn ddiweddar.
Ffurfiwyd y grŵp yn 2006 pan ymunodd y pibydd Ceri Rhys Matthews â band y brodyr Tomos Williams (utgorn) a Daniel Williams (sacsoffon). Y bwriad oedd arbrofi a chreu gosodiadau newydd o alawon gwerin Cymraeg.
Rhyddhawyd albwm cynta'r band, Alawon, ym mis Ebrill 2007, y tro cyntaf i alawon gwerin Cymraeg gael eu perfformio mewn arddull jazz modern. Mae’r albwm a'r perfformiadau byw wedi cael ymateb ardderchog ac mae disgwyl mawr am berfformiad y band yn yr Ŵyl eleni.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales