Neidio at y cynnwys

S4C

HSBC Jazz Aberhonddu: Dathlu 25

  • Dathlu 25 - Nos Sadwrn 16 Awst 21:20
  • Cerddorion Cymreig - Nos Sadwrn 23 Awst
  • Artistiaid rhyngwladol - Nos Sadwrn 30 Awst

I ddathlu cyfraniad gŵyl HSBC Jazz Aberhonddu i fywyd cerddorol Cymru dros y 25 mlynedd diwethaf, fe fydd S4C yn darlledu rhaglen ddogfen arbennig nos Sadwrn, 16 Awst.

Dechreuodd Jazz Aberhonddu yn 1984, gyda'r diweddar George Melly – a fu'n hynod gefnogol i'r ŵyl ar hyd y blynyddoedd – ymhlith perfformwyr cyntaf y digwyddiad agoriadol hwnnw.

Fe dyfodd yr ŵyl o nerth i nerth, ac mae enwau mwyaf y byd jazz, gan gynnwys Lionel Hampton, chwaraewr fibraffon o fri, y pianydd McCoy Tyner a'r sacsoffonydd Sonny Rollins wedi chwarae yno dros y blynyddoedd.

Mae'r arlwy arobryn yn parhau eleni, gydag artistiaid byd-enwog megis y gantores a'r gyfansoddwraig Joan Armatrading, y sacsoffonydd Maceo Parker a'r gantores Cerys Matthews yn cyfrannu.

Mae'r sacsoffonydd o Gaerdydd, Osian Roberts, y band jazz gwerin Burum a'r pianydd Huw Warren yn cael eu cyfweld ar y rhaglen. Byddant yn sôn am sut mae'r ŵyl wedi ehangu eu gorwelion cerddorol yn ogystal ag edrych ar sut mae wedi dylanwadu y tu hwnt i ffiniau'r ŵyl ei hun.

"Mae'r ŵyl hon yn hollol wahanol i bob un ŵyl jazz arall," meddai Tomos Williams, sy'n chwarae'r utgorn i Burum. "Mae jazz yn cymryd drosodd y dre, a does dim posib ei osgoi."

Mae Burum yn un o'r grwpiau mwyaf cyffrous i ymddangos ar y sin jazz yng Nghymru yn ddiweddar. Mae'r band yn arbrofi a chreu gosodiadau newydd o alawon Cymraeg, ac mae disgwyl mawr am berfformiadau'r grŵp yn yr ŵyl eleni.

Mae Tomos yn sicr bod yr ŵyl wedi bod yn bwysig i gerddoriaeth yng Nghymru dros y chwarter canrif ddiwethaf.

"Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi bod yn blatfform i gerddorion Cymreig, ac mae'n ffordd dda o gael sylw. Ond hefyd, mae enwogion y byd jazz yn dod i Gymru am un penwythnos, ac mae cael cyfle i'w gweld nhw'n chwarae'n fyw yn amhrisiadwy," meddai.

Yn ogystal â'r rhaglen ddogfen, bydd S4C yn darlledu dwy raglen uchafbwyntiau o'r ŵyl ar nos Sadwrn, 23 Awst a nos Sadwrn, 30 Awst. Bydd y rhaglen gyntaf yn canolbwyntio ar y cerddorion Cymreig sy'n chwarae yn yr ŵyl, a'r ail ar yr artistiaid rhyngwladol. Caiff holl arlwy S4C o'r ŵyl ei chyflwyno gan Lisa Gwilym a Rhodri Owen.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales