"A jaw-droppingly exciting pianist" The Guardian
Mae'r wasg yn llawn edmygedd o ddoniau'r pianydd ifanc o Gymru, Gwilym Simcock. Mae'n cael ei ddisgrifio fel pianydd mwyaf dawnus y sîn jazz ym Mhrydain ac yn cael ei gymharu â'r meistr byd enwog, Keith Jarrett.
Yn 27 mlwydd oed, mae e eisoes wedi ennill nifer o wobrau mwyaf y byd jazz, gan gynnwys y Wobr Perrier, a nifer o wobrau jazz y BBC. Wedi cyfnod yn astudio mewn colegau cerdd, mae dylanwad cerddoriaeth glasurol, yn ogystal â jazz, yn amlwg ar ei waith. Yn 2008 fe'i comisiynwyd i gyfansoddi Concerto ar gyfer triawd jazz piano i'w berfformio gyda Cherddorfa Symffoni'r BBC yn ystod y 'Proms'.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales