Neidio at y cynnwys

S4C

Cofio Humphrey Lyttelton

Ym mis Ebrill 2008 bu farw'r cerddor jazz a'r cyflwynydd radio Humphrey Lyttelton yn 86 mlwydd oed. Roedd yn un o gefnogwyr mwyaf selog Gŵyl HSBC Jazz Aberhonddu, a'i berfformiad yno llynedd oedd ei berfformiad cyhoeddus olaf.

Fe ddaeth Humphrey Lyttelton, neu 'Humph' i’w ffrindiau, o gefndir breintiedig. Fe’i ganed yn 1921 yn Eton, ger Windsor, ac roedd ei dad, G.W. Lyttelton, yn feistr yn yr ysgol fonedd. Yn ysgol Eton y datblygodd Humph ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth jazz, ac fe ddechreuodd ganu'r utgorn cyn ffurfio pedwarawd jazz gyda'i gyd-ddisgyblion.

Er y gwreiddiau bonheddig yma, roedd Humph hefyd yn sosialydd i'r carn. Ar ôl cyfnod yn gweithio yng ngwaith dur Port Talbot fe ddisgrifiodd ei hun fel "sosialydd rhamantus".

Mewn gyrfa hir a llwyddiannus yn canu'r utgorn gyda'i fand, cafodd gyfle i rannu llwyfan gyda nifer o'i arwyr. Fe ddisgrifiodd Louis Armstrong ef fel "that cat in England who swings his ass off".

Roedd gan y cerddor dawnus nifer o ddoniau eraill hefyd. Yn ogystal â gweithio fel cartwnydd i bapur newydd y Daily Mail roedd Humph hefyd yn llais adnabyddus ar Radio 4 fel cadeirydd y rhaglen gwis 'I'm Sorry I Haven’t a Clue'.

Yn y flwyddyn 2000, fe'i anrhydeddwyd gyda gwobr cyfraniad oes yng Ngwobrau Jazz Prydain.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales